Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Gwenno

Gwenno

15 Hydref 2023

Mae Gwenno a’i chyfeillion yn cyflwyno un perfformiad unigryw yn arbennig i Llais, dan yr enw ‘Tair Ton | Teyr Ton | Three Waves’, sy’n cwmpasu ei thair albwm - Y Dydd Olaf, Le Kov, a’i halbwm ddiweddaraf a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Mercury, Tresor.

Paratowch am wledd synhwyraidd gyda theatreg, celf weledol a pherfformwyr gwadd. Bydd y delweddau byw trochol yn cael eu darparu gan yr artist fideo clodwiw Sam Wiehl, sydd wedi gweithio gyda Mogwai, Yann Tiersen, Forest Swords a llawer mwy.

Mae Eddie Ladd, artist dawns nodedig o Gymru sydd â dros 30 mlynedd o brofiad, wedi mireinio ei gyrfa amlochrog, gan integreiddio canu, cerddoriaeth, cyfryngau newydd, a chelf weledol yn rhwydd i’w harfer. Bydd yn serennu ar y llwyfan gyda pherfformiad dawns hudolus ochr yn ochr â Gwenno a’i band.

Bydd y digwyddiad yma’n ddathliad o’i thair albwm, gan gysylltu eu themâu cyffredin, ac yn cynnwys traciau o’i recordiau sydd heb eu clywed yn fyw o’r blaen.

Peidiwch â cholli’r perfformiad bythgofiadwy yma gyda’r prynhawn; dyma fydd unig berfformiad Gwenno yng Nghymru yn 2023.

Amser dechrau: 4pm (cyn-sioe 3.30pm)

Oherwydd newid yn y rhaglen, bydd y sioe hon nawr yn cychwyn am 4pm yn lle 8pm. Rydym wedi cysylltu ag archebwyr tocynnau drwy ebost.

CYNNIG DAN 16 OED

£5

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.