Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
James Yorkston a Nina Persson

James Yorkston a Nina Persson

13 Hydref 2023

Bydd James Yorkston a Nina Persson yn perfformio caneuon o’u cywaith gyda The Secondhand Orchestra, The Great White Sea Eagle, a ryddhawyd yn gynharach eleni.

Doedd gan yr artist gwerin o’r Alban James Yorkston a The Secondhand Orchestra o Sweden ddim cynlluniau go iawn i greu dilyniant i 'The Wide, Wide River' (2021), ond wrth i James fynd i’w stiwdio yn Cellardyke, Fife bob dydd ar ddechrau 2021, fe ddechreuodd ysgrifennu caneuon ar y piano yn hytrach na'i gitâr arferol wrth iddo syllu ar y môr y tu allan i'w ffenest. 

Ar ôl anfon y bump neu chwech o ganeuon cyntaf at Karl-Jonas Winqvist (blaenydd/arweinydd y Gerddorfa Ail Law), dechreuon nhw drafod gweithio ar y gerddoriaeth gyda'i gilydd. Gyda symudiad Yorkston o’r gitâr i’r piano, fe fuon nhw’n meddwl pa newidiadau eraill y gallen nhw eu gwneud i’w proses, a arweiniodd at gynnwys cantores wadd pan groesawyd y gantores chwedlonol Nina Persson (The Cardigans) i’r gorlan.

Amser dechrau: 6.30pm

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.