Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Life Hack

Life Hack

14 Hydref 2023

Mae Life Hack yn ôl yn Llais yn 2023! Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim yma i gael profiad ymarferol gan weithwyr proffesiynol creadigol sy'n gweithio ar draws diwydiannau amrywiol yma yng Nghymru. 

Dechreuodd Life Hack drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd. Eleni, fel rhan o Llais, byddwch chi’n gallu cymryd rhan mewn gweithdai a gaiff eu rhedeg gan artistiaid a gofyn unrhyw beth yr hoffech chi iddyn nhw, fel sut y wnaethon nhw ddechrau yn eu maes, cyngor ar ddod o hyd i swydd eich breuddwydion a sut i roi hwb i’ch gyrfa. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda bwyd rhad ac am ddim a thocynnau arbennig i Next Up @ Llais (ar werth yn fuan). 

AR GYFER PWY? 

Os ydych chi rhwng 11 a 25 oed, dewch i gwrdd ag arbenigwyr mewn meysydd fel dylunio gwisgoedd, comedi, actio, radio a mwy.  

PRYD? 

Caiff ein digwyddiad eleni ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 14 Hydref rhwng 1pm a 6pm.  

SUT MAE’N GWEITHIO? 

Bydd Life Hack yn cynnwys dau set o weithdai, a byddwch chi’n dewis pa rai i fynd iddyn nhw pan fyddwch chi’n archebu eich tocyn. Bydd cyfle hefyd i chi gwestiynu ein holl artistiaid, rhag ofn na fyddwch chi’n gallu mynd i’w gweithdy. Ac mae popeth yn RHAD AC AM DDIM! 

Dewch i gael eich ysbrydoli i roi hwb i’ch gyrfa yn y diwydiannau creadigol.  

Archebwch eich lle am ddim

Mae lleoedd yn gyfyngedig felly dylech ond archebu os ydych chi'n ymrwymo 100% i ddod.