Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Llais x BBC Gorwelion yn cyflwyno

Llais x BBC Gorwelion yn cyflwyno

13 Hydref 2023

Mae Llais a BBC Gorwelion wedi ymuno i gyflwyno lein-yp ysblennydd o dalent o Gymru yn yr ŵyl eleni. Gallwch chi ddisgwyl noson o rai o’r artistiaid datblygol mwyaf cyffrous a chydweithrediadau byw arbennig.

L E M F R E C K

Artist, cynhyrchydd ac awdur o Gymru yw L E M F R E C K a sefydlodd y grŵp cydweithredol Noctown ac sy’n rhagori mewn adrodd straeon unigryw drwy gerddoriaeth ac effeithiau gweledol wedi’u hunan-gyfarwyddo. Gwnaeth blynyddoedd cynnar L E M F R E C K, a gafodd ei enwi’n ail yng nghystadleuaeth y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2022, fel artist sesiwn gospel a chynhyrchydd grime lunio ei waith cynhyrchu. Mae’n aml yn cael ei gymharu ag artistiaid sy’n eistedd yn y gofod electronig fel Sampha, ac mae’n cyfuno ei fagwraeth grime â gallu cerddorol hyfforddedig i ychwanegu sain RAP Prydeinig. Heb label na hyrwyddwr radio, mae eisoes wedi cael ei chwarae ar BBC Radio 1 gan gynnwys ar sioe Future Sounds Jack Saunders ac fel Trac yr Wythnos 1Xtra.

NOOKEE

Wedi’i arwain gan chwiorydd sy’n efeilliaid unfath a’i gynnal gan adran rhythm aruthrol, mae NOOKEE yn cyflwyno cawl mawr o fwyd soul, gan gyflwyno ffrindiau newydd a thaflu pob math o flasau i mewn i’r pot! Ymunwch â’r dathliad – dewch i gael ychydig o NOOKEE...

Gyda pherfformiad cydweithredol byw arbennig o Smile a mwy i’w ddatgelu.

SOURCE

Grŵp cydweithredol newydd yw SOURCE sy’n gwneud datblygiadau mawr yn y byd cerddoriaeth yng Nghaerdydd. Mae cymysgedd o alawon teimladwy a harmonïau cyfoethog yn dod ynghyd yn eu cerddoriaeth i ffurfio ton newydd o sain sy’n nodi hanfodion neo-soul a RnB.

Mae eu cerddoriaeth yn procio meddyliau am ysbrydolrwydd, rhyddid a gwendid. Maen nhw’n credu bod gonestrwydd a bwriad yn bwysig o fewn cerddoriaeth ac maen nhw’n ymdrechu i weithio gydag artistiaid sy’n ymgorffori’r egwyddorion yma.

Amser dechrau: 8.30pm (drysau 8pm)

16-30s

Gostyngiad o £2

Mae pob cynnig yn amodol dyraniadau ac argaeledd

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.