Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Richard Dawson

Richard Dawson

12 Hydref 2023

Mae Richard Dawson, un o leisiau mwyaf pwerus a theimladwy’r DU, yn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer perfformiad unigol arbennig ar ôl rhyddhau ei albwm diweddaraf The Ruby Cord y llynedd. 

Gellid ystyried The Ruby Cord yn rhan olaf o driawd, a ddechreuodd gyda byd  cyn-canoloesol Peasant, a ddaeth yn ôl i heddiw gyda 2020 ac – o bosibl – sy’n terfynu yn y dyfodol gyda seithfed albwm stiwdio Dawson.

Ar ôl cydweithio yn ddiweddar â’r arloeswyr metel o’r Ffindir, Circle, a’i waith gyda Hen Ogledd, mae Dawson yn dychwelyd i'w fyd ei hun gyda saith trac sy’n mynd â ni i ddyfodol afreal, rhyfeddol a sinistr ar adegau lle mae syniadau cymdeithasol wedi newid ac mae ffiniau moesegol a chorfforol wedi diflannu... lleoliad lle nad oes angen i chi ymgysylltu â neb mwyach ond chi eich hun a’ch dychymyg. Mae’n naid i'r dyfodol sydd o fewn cyrraedd, ac sydd yma’n barod mewn rhai achosion. 

Mae cerddoriaeth Dawson yn brofiad gwahanol yn fyw – mae ei lais uchel a’i gitâr ergydiol yn cario gonestrwydd sy’n hynod o bwerus. Profwch y grym aruthrol yma pan fydd yn perfformio yn Llais 2023.  

Amser dechrau: 7pm