Mae Cwmwl Tystion II / Riot! yn dychwelyd ar gyfer perfformiad untro yn Llais. Enwebwyd cyfansoddiad Riot! Suite Tomos Williams ar gyfer Gwobr Cyfansoddwr Ivor Novello yn y categori jazz yn 2022.
Mae’r trwmpedwr o Gymru, Tomos Williams, wedi cynnull band gwych sy’n cynnwys y cerddorion o fri rhyngwladol Soweto Kinch ac Orphy Robinson ochr yn ochr â’r gantores ifanc o Gymru, Eadyth Crawford, ac adran rhythm o’r radd flaenaf yn Aidan Thorne a Mark O’Connor. Bydd delweddau byw gan Simon Proffitt yn cyd-fynd â’r perfformiad ymdrochol yma sy’n cynnwys elfennau o jazz, hip-hop, cerddoriaeth werin Gymraeg a’r avant-garde.
Mae'r enw Cwmwl Tystion yn dod o’r gerdd Pa Beth yw Dyn? gan Waldo Williams, un o feirdd Cymraeg mwya’r ugeinfed ganrif, tra bod themâu pob symudiad yn y Riot Suite yn seiliedig ar wahanol ddigwyddiadau yn hanes Cymru. Wedi’u hysbrydoli’n ddwfn gan waith Wadada Leo Smith, Matana Roberts a Don Cherry, mae materion yn ymwneud â hil a hunaniaeth Gymreig hefyd yn cael eu harchwilio yn y gerddoriaeth.
Bu’r band yn teithio Cymru yn wreiddiol tua diwedd 2021 a chael llwyddiant mawr, gan recordio albwm byw yn y broses, a fydd yn cael ei ryddhau i gyd-fynd â’r perfformiad yma ym mis Hydref 2023.
Amser dechrau: 7.30pm
TALWCH BETH Y GALLWCH
Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.