Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Arlo Parks

Arlo Parks

Bu Arlo Parks a’i band yn cymryd rhan mewn fersiwn digidol o Ŵyl y Llais ym mis Mawrth 2021, gan berfformio traciau o’i halbwm newydd yn Theatr Donald Gordon fel rhan o Ŵyl 2021 ar y BBC.

Bardd a chantores 20 mlwydd oed o dde-orllewin Llundain yw Arlo Parks, sy’n hanner Nigeriad, yn chwarter Tsiad, ac yn chwarter Ffrances a ddysgodd siarad Ffrangeg cyn Saesneg.

Roedd hi’n blentyn tawel, a byddai’n ysgrifennu straeon byrion ac yn creu bydoedd ffantasi. Yn ddiweddarach, byddai’n cadw dyddlyfr cyn magu obsesiwn am farddoniaeth lafar, darllen gweithiau beirdd Americanaidd fel Ginsberg a Jim Morrison a gwylio hen berfformiadau Chet Baker ar YouTube.

Yn ei geiriau hi, treuliodd lawer o’i hamser yn yr ysgol yn teimlo fel y plentyn Du oedd ddim yn gallu dawnsio, oedd yn gwrando gormod ar gerddoriaeth emo ac yn dyheu am ryw ferch yn ei dosbarth Sbaeneg.

Mae ei dylanwadau cerddorol yn cynnwys King Krule; artist a fyddai’n dylanwadu’n gryf ar y gerddoriaeth mae hi’n ei chyfansoddi heddiw, artistiaid Hip Hop fel Kendrick Lamar, MF Doom ac Earl Sweatshirt a Loyle Carner a Roc (Jimi Hendrix, Shilpa Ray a David Bowie), yn ogystal â synau isel, llawn poen Keaton Henson, Sufjan Stevens, a Julien Baker.

Mae ansawdd gweledol, sinematig bron, i’w chyfansoddiadau hefyd, sy’n deillio o’i chariad tuag at ffilmiau Wes Anderson a David Lynch, dillad stryd, a chelf haniaethol.

Fel un o’r artistiaid i’w gwylio yn 2020, cafodd ei chynnwys ar restrau diwedd blwyddyn NME, DIY, yr Independent a llawer mwy, gan gynnwys Pleidlais Sound of... y BBC, a oedd yn benllanw blwyddyn anhygoel i’r bardd a’r gantores ifanc.

Yn dilyn hynny, cefnogodd Jordan Rakei a Loyle Carner ar daith, a chyflawni ei thaith gyntaf ei hun a werthodd allan ym Mhrydain ac Ewrop, gan chwarae mewn llawer o wyliau, gan gynnwys Glastonbury, Latitude, The Great Escape a mwy.

Doedd dim amheuaeth mai 2020 fyddai ei blwyddyn, a hyd yn oed gyda’r pandemig, ar ôl cael ei henwi’n Hottest Record gydag Annie Mac am ei chân ‘Eugene’, cafodd senglau diweddar Arlo Parks, sef ‘Hurt’ a ‘Black Dog’, eu rhoi ar brif restrau chwarae BBC Radio 1 a BBC 6 Music ar yr un pryd, a chael eu ffrydio filiynau o weithiau’n fyd-eang.

Perfformiodd Arlo ar sengl ‘Tangerine’ gan Glass Animals, a chydweithiodd â’r cynhyrchydd a’i chyfaill Fraser T. Smith ar ei drac newydd ‘Strangers In The Night’ – perfformiodd y ddau ar raglen Later With… Jools Holland hefyd.

Drwy ei doniau cyfansoddi, mae Arlo Parks wedi ennyn edmygedd ffans newydd eleni, gan gynnwys Billie Eilish, Phoebe Bridgers, Florence Welsh, Michelle Obama, Angel Olsen, a Sam Fender, ymhlith eraill.Ar 29 Ionawr 2021, rhyddhaodd Arlo ei halbwm cyntaf hir ddisgwyliedig yn ogystal â chyfres o ddyddiadau ar gyfer perfformiadau byw yn Ewrop a Phrydain, sy’n cynnwys dwy sioe sydd eisoes wedi gwerthu allan yn y Village Underground yn Llundain.