Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Charlotte Adigery

Charlotte Adigery

Bu’r artist Belgaidd-Caribïaidd, Charlotte Adigéry, yn cymryd rhan mewn fersiwn digidol o Ŵyl y Llais ym mis Mawrth 2021. Perfformiodd Charlotte ei gig yng Ngwlad Belg fel rhan o Ŵyl 2021 ar y BBC.

Storïwraig fedrus yw Charlotte, sydd weithiau’n wirion, weithiau’n hynod fewnsyllol, wrth i’w hymennydd grwydro’n barhaus a chreu straeon sy’n absẃrd a theimladwy ac yn llawn hwyl rhyfeddol.

Mae Charlotte, a ddysgodd gan ei mam – a aned ar ynys Martinique – am berthynas rhythmau â cerddoriaeth a phwysigrwydd bod â synnwyr digrifwch, yn artist ifanc llawn perswâd sy’n gallu canu am fadfallod un funud a latecs dro arall.