Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Opera'r ddraig

Opera'r ddraig

Fel rhan o ŵyl ddigidol Gŵyl y Llais, fe berfformiwyd yr opera ddiweddaraf gan Opera’r Ddraig am y tro cyntaf: ‘Bhekizizwe’ gan Rob Fokkens a Mkhululi Matyalana Ka Mabija.

Gan neidio’n ôl ac ymlaen mewn amser ac olrhain bywyd dyn Zulu o Dde Affrica (o’i blentyndod ym mlynyddoedd olaf Apartheid i’w gyfnod yn astudio ym Mhrydain ar ddechrau’r mileniwm newydd a’r newyddion annisgwyl ei fod am fod yn dad), mae ‘Bhekizizwe’ yn archwilio cwestiynau am hunaniaeth, hil, mewnfudo, bod yn rhiant a diwylliant.

Mae’r ddrama mono operatig yma gan y cyfansoddwr Robert Fokkens a’r libretydd Mkhululi Mabija, wedi’i chyfarwyddo gan Benjamin Davis, ei chynllunio gan Brad Caleb Lee a’i pherfformio gan y bariton Themba Mvula, sy’n perfformio sawl rhan wahanol wrth i’r stori ddatblygu.

Mae ‘Bhekizizwe’ yn ddarn o theatr aml-haenog sy’n cynnwys llawer o themâu, gan gynnwys cariad a pherthynas.