Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Paraorchestra

Paraorchestra

Bu’r BaragerddorfaCharles Hazlewood a Brett Anderson yn perfformio Death Songbook: Singing into Darkness gyda’r gwesteion arbennig, Nadine ShahAdrian Utley a Seb Rochford fel rhan o Ŵyl 2021 ar y BBC.

Y Baragerddorfa yw’r unig ensemble integredig ar raddfa fawr yn y byd ar gyfer cerddorion proffesiynol anabl a cherddorion nad ydyn nhw'n anabl.

Eu nod yw ail-ddiffinio beth gallai cerddorfa fod. Maen nhw’n ei weld fel corff eithriadol o offerynnau sy'n cydamseru'n berffaith, sy'n tynnu ar ganrifoedd o draddodiad ond sydd wedi'i gyfoethogi a'i ehangu gan ddoniau, offerynnau a zeitgeist yr unfed ganrif ar hugain.

Yn ymuno â Brett Anderson, Charles Hazlewood a’r Baragerddorfa mae’r gwestai Nadine Shah mewn perfformiad untro arbennig o gerddoriaeth gan unigolion a bandiau eiconig fel David Bowie/Jacques Brel, Echo and the Bunnymen, Skeeter Davis, Japan, a Suede.

Cyfres o ganeuon heb eu hail sy’n cynnwys fersiynau tyner newydd o ganeuon am farwolaeth, am farwolaeth cariad, am golled ac am dra-rhagoriaeth.

Bydd y set gyfoethog yma – gydag amrywiaeth a gallu cerddorion y Baragerddorfa a thalentau Adrian Utley a Seb Rochford mewn trefniannau newydd gan y cyfansoddwr Charlotte Harding – yn daith drwy brudd-der ac ewfforia colled.

Wedi’i berfformio yng ngwacter eang y llwyfan telynegol mwyaf yn Ewrop, bydd Death Songbook yn ein hatgoffa mai cerddoriaeth yw ein ffrind anwesaf mewn cyfnodau tywyll; sy’n mynd i’r afael â’n profedigaeth, sy’n ein cysuro, yn ein meithrin ac yn dyrchafu.