Rydym ni wedi chwilota drwy'r archif, i greu rhestr o ddeg ffaith ddifyr am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Faint o'r rhain oeddech chi'n gwybod?
- Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyntaf ym Mhafiliwn Corwen ym 1929.
- Heddiw, mae’r ŵyl yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop ar gyfer pobl ifanc, ac fe fydd oddeutu 15,000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yng ngwyl eleni.
- Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wedi teithio o Fôn i Fynwy ac o Gaernarfon i Gaerdydd a nifer helaeth o lefydd eraill. Mi fydd cyfanswm o 84 Eisteddfod wedi’u cynnal erbyn eleni.
- Yn flynyddol, mae disgwyl i’r ŵyl atynnu 90,000 o ymwelwyr i’r Maes.
- Mae union 10 mlynedd ers i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ymweld â Chaerdydd a’r Fro ddiwethaf.
- Mistar Urdd yw masgot yr Urdd. Ganwyd y cymeriad hoffus yma ym 1976, ac mae’n boblogaidd gyda phlant ar hyd a lled y wlad. Cadwch lygad barcud amdano yn y Bae yn ystod yr ŵyl.
- I ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i Gaerdydd a’r Fro, trefnwyd fod Mei Gwynedd yn recordio fersiwn newydd o’r gân eiconig ‘Hei Mistar Urdd’ gydag 20 o ysgolion yr ardal. Mi fydd ar gael i’w lawrlwytho ar ddydd Gwener 10 Mai. Gwrandewch i’r gân newydd yma!
- Ymysg yr enwogion sydd wedi cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod y mae'r gantores Casi Wyn, yr actor Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, yr actores Caryl Parry Jones ac Amber Davies – un o enillwyr rhaglen Love Island.
- Mae’r Urdd yn gwmni preswyl yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac mae eu gwersyll yn croesawu 22,000 o blant bob blwyddyn
- Mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau.