Mae'n anodd credu bod yr holl sioeau yma'n dod i'r Ganolfan o fewn yr un flwyddyn, ac mae rhagor i ddod. Dyma 12 sioe wefreiddiol sydd ar y gorwel. Mae 2020 yn argoeli i fod yn flwyddyn ragorol. Mynnwch docynnau.
1. The King and I
8 - 18 Ionawr 2020

Dechreuwch y flwyddyn gyda chynhyrchiad arobryn Lincoln Center Theater o gynhyrchiad Rodgers and Hammerstein, The King And I, yn syth o dymor hynod boblogaidd yn The London Palladium.
2. The Beauty Parade
5 - 14 Mawrth 2020

Yr Ail Ryfel Byd yw'r cyfnod, ac mae tair menyw gyffredin yn cael eu tynnu o'u bywydau dinod a'u parasiwtio y tu ôl i linellau'r gelyn, i fod yn ddifrodwyr a llofruddion tawel.
Dyma gydweithrediad unigryw rhwng Kaite O'Reilly ac artistiaid Byddar a rhai sy'n clywed. Mae'n cyfuno cerddoriaeth fyw, caneuon atgofus ac iaith weledol i adrodd stori gwbl unigryw.
3. Cabaret
24 - 28 Mawrth 2020

Y flwyddyn yw 1931, mae Berlin yn hafan o ddirywiad nefolaidd ac mae'r enwog Sally Bowles ar fin camu ar lwyfan clwb drwgenwog y Kit Kat Klub.
Wedi'i gyfarwyddo gan Rufus Norris ac yn dilyn dau rediad poblogaidd yn y West End, mae Cabaret a enillodd dwy wobr Tony yn cynnwys coreograffi gwefreiddiol, gwisgoedd syfrdanol a digonedd o ganeuon eiconig.
4. Cynhyrchiad Matthew Bourne o The Red Shoes
31 Mawrth - 4 Ebrill 2020

Daw addasiad buddugoliaethus Matthew Bourne o'r ffilm chwedlonol yn ôl i'r Ganolfan ar ôl ennill dwy wobr Olivier a gwefreiddio cynulleidfaoedd a beirniaid ar draws y DU ac UDA.
Wedi'i gosod i gerddoriaeth hynod ramantus Oes Aur Hollywood, dyma chwedl am obsesiwn, meddiant a breuddwyd un ferch i fod yn ddawnswraig orau'r byd.
5. Million Dollar Quartet
21 - 25 Ebrill 2020

Yn dilyn ei llwyddiant yn y West End, Las Vegas, Broadway ac o gwmpas y DU, daw Million Dollar Quartet i Gaerdydd.
Ysbrydolwyd y sioe hynod boblogaidd yma gan y sesiwn recordio enwog a ddaeth â'r eiconau roc a rôl Elvis Presley, Johnny Cash, Jerry Lee Lewis a Carl Perkins at ei gilydd am y tro cyntaf a'r unig dro.
Dewch i fwynhau stori wir y noson fythgofiadwy honno a greodd hanes ym myd roc a rôl.
6. A Monster Calls
28 Ebrill - 2 Mai 2020

Yn seiliedig ar lyfr adnabyddus Patrick Ness, mae cynhyrchiad Sally Cookson A Monster Calls yn cynnig mewnwelediad syfrdanol i gariad, bywyd ac iachâd.
Mae Conor sy'n 13 mlwydd oed, a'i fam wedi ymdopi'n iawn ers i'w dad symud i ffwrdd. Ond nawr mae ei fam yn dost a dyw hi ddim yn gwella. Un noson mae Conor yn cael ei ddihuno gan rywbeth wrth ei ffenest. Mae bwystfil wedi dod am dro i adrodd chwedlau...
7. Once the musical
11 - 16 Mai 2020

Mae Once yn adrodd stori dau enaid coll - bysgiwr o Ddulyn a cherddor Tsiecaidd sy'n dod o hyd i'w gilydd yn annisgwyl ac yn syrthio mewn cariad.
Enillydd Gwobr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, a gwobr Grammy ar gyfer y Cyflawniad Cerddorol Gorau, mae'r sioe gerdd arbennig yma'n adrodd stori hudolus a thwymgalon am obeithio a breuddwydion.
8. Everybody's Talking About Jamie
18 - 23 Mai 2020

Mae'r sioe gerdd hynod boblogaidd o'r West End yn dod i Gaerdydd, ac yn serennu Layton Williams fel Jamie New a Shane Richie o Eastenders fel Hugo/ Loco Chanelle. Doniol a thwymgalon, dyma sioe gerdd fendigedig ar gyfer y teulu cyfan.
9. The Lion King
9 Gorffennaf - 29 Awst 2020

Wedi'i osod yn y Serengeti Plains mawreddog i rythmau Affrica, mae The Lion King yn ffenomen fyd-enwog. Mae 100 miliwn o bobl wedi gweld y sioe anhygoel yma, ac mae'n parhau i werthu allan yn ei 20fed flwyddyn.
Mae sioe glasurol Disney yn wledd weledol sy'n ffrwydrad o liw, effeithiau arbennig a cherddoriaeth hudolus.
10. The Book of Mormon
3 - 28 Tachwedd 2020

Dyma sioe gerdd gomedi ffraeth ac anhygoel gan grewyr South Park, Trey Parker a Matt Stone, a Bobby Lopez - cyd-awdur Avenue Q a Frozen.
Dilynwn anffawd pâr o genhadwyr sydd wedi'u danfon ar genhadaeth i le sydd mor bell o Salt Lake City ag sy'n bosib. Enillydd naw Gwobr Tony, mae The Book of Mormon yn ffenomen fyd-eang.
11. The Lion, the witch and the wardrobe
1 - 5 Rhagfyr 2020

Camwch i mewn i’r cwpwrdd i deyrnas hudolus Narnia am antur gyfriniol mewn byd pell i ffwrdd dros y Nadolig.
Ymunwch â Lucy, Edmund, Susan a Peter wrth iddynt chwifio hwyl fawr i Brydain yng nghyfnod rhyfel a dweud helo wrth y Ffawn sy’n siarad, Llew bythgofiadwy a’r Wrach Wen oeraidd, fwyaf creulon.
12. The Phantom of the Opera
9 Rhagfyr 2020 - 16 Ionawr 2021

Mae'r cynhyrchiad gwreiddiol anhygoel o The Phantom of the Opera gan Andrew Lloyd Webber yn mynd ar daith o amgylch y DU ac Iwerddon.
Wedi'i gynhyrchu gan Cameron Mackintosh a The Really Useful Group Ltd, mae'r sgôr rhamantus, swynol ac esgynnol yn cynnwys Music of the Night, All I Ask of You, Masquerade a'r gân deitl eiconig. Peidiwch â cholli un o'r cynyrchiadau mwyaf prydferth, syfrdanol a fu erioed.
Gweler ein rhaglen llawn ar gyfer 2020 fan hyn, a dechreuwch archebu
<img src="3223" alt="undefined" title="undefined" />