Gan fod ei nofelau’n cynnwys Thirteen at Dinner, The Thirteen Problems a Thirteen Clues for Miss Marple, dyma 13 ffaith ddifyr am Agatha Christie…
- Agatha Christie yw’r nofelydd sydd wedi gwerthu’r nifer fwyaf o lyfrau yn y byd. Ysgrifennodd 66 nofel drosedd, 6 nofel ar bynciau eraill, 150 stori fer a 19 drama.
- The Mousetrap gan Agatha Christie yw’r ddrama lwyfan sydd wedi cael y rhediad hiraf yn y byd. Dathlodd y ddrama ei phen-blwydd yn 60 oed yn 2012, ar ôl 25,000 o berfformiadau.
- Ysgrifennodd Agatha Christie ei chwe nofel ar bynciau heblaw trosedd dan y ffugenw Mary Westmacott. Am bron i 20 mlynedd, doedd neb yn gwybod mai Christie oedd gwir awdur y llyfrau.
- St. Mary Mead oedd lleoliad ffuglennol nofel gyntaf Miss Marple, sef The Murder at the Vicarage. Digwyddodd y dirgelwch olaf yn St. Mary Mead yn y nofel The Mirror Crack’d from Side to Side.
- Bu Christie’n gweithio fel cynorthwyydd apothecari yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac oherwydd iddi drin amrywiaeth eang o sylweddau roedd ganddi wybodaeth eang am bob math o wenwyn. Dyna oedd prif arf llofruddiaethau ei nofelau, a defnyddiwyd gwenwyn i ladd 80 o’i chymeriadau.
- Mae cymeriad Miss Marple, sy’n ymddangos mewn 12 o nofelau Christie, yn seiliedig ar fam-gu a ffrindiau mam-gu Christie.
- Cyflwynodd Agatha Christie y nofel The Mirror Crack’d from Side to Side i’r actor Margaret Rutherford, er nad oedd Christie’n or-hoff o’i phortread hi o Miss Marple.
- Mae sawl actor cyfarwydd wedi chwarae rhan Miss Marple, gan gynnwys Y Fonesig Angela Lansbury, Y Fonesig Margaret Rutherford, Joan Hickson a Julia McKenzie.
- Ym 1922, tra ar daith o amgylch yr Ymerodraeth Brydeinig, dysgodd Christie a’i gŵr cyntaf, Archie, sut i syrffio yn Ne Africa a Hawaii. Roedden nhw ymhlith y Prydeinwyr cyntaf i syrffio.
- Mae modd llogi fflat yn hen dŷ haf Agatha Christie yn Greenway, Dyfnaint. Mae lle i wyth person aros yn y fflat, a does fawr ddim ynddo wedi newid er pan oedd teulu Christie’n byw yno yn y 1950au.
- Pan fu farw’r ditectif enwog Hercule Poirot yn y novel Curtain: Poirot’s Last Case, a gyhoeddwyd ym 1975, cafwyd ysgrif goffa iddo ym mhapur newydd The New York Times. Dyma’r unig gymeriad llenyddol i dderbyn ysgrif o’r fath.
- Cafodd teitl y nofel The Mirror Crack’d ei ysbrydoli gan y gerdd ‘The Lady of Shalott’ o waith Alfred, Arglwydd Tennyson.
- Addaswyd y nofel The Mirror Crack’d from Side to Side ar gyfer y sgrin dair gwaith ers ei chyhoeddi am y tro cyntaf ym 1962, gan gynnwys cyfres ITV yn 2011, cyfres BBC ym 1992, a ffilm ym 1980. Eleni, mae’n cael ei haddasu ar gyfer y llwyfan am y tro cyntaf erioed yn Saesneg, gyda premiere Ewropeaidd ar 15 Chwefror yn Salisbury cyn teithio i Ddulyn, Caergrawnt a Chaerdydd. Bydd y ryfeddol Miss Marple yn cael ei chwarae gan Susie Blake.