21 Hydref 2018
Ddeng mlynedd ers ennill cystadleuaeth Last Choir Standing y BBC, mae’r côr meibion sy’n sefyll allan yn dychwelyd i’r Ganolfan ar gyfer Cyngerdd Gala Dathlu Degawd.
Bydd Taith y Degawd yn cynnwys llawer o’u caneuon mwyaf poblogaidd o’r deng mlynedd diwethaf, gan gynnwys rhai sydd wedi’u dewis gan y cefnogwyr eu hunain.
Mae eu sain unigryw, eu steil a’u harmonïau perffaith wedi plesio cynulleidfaoedd ar hyd y blynyddoedd, ac yn y cyngerdd yma byddan nhw’n cael cwmni Only Boys Aloud, y côr rhyfeddol sy’n cynnig cyfleoedd perfformio unwaith mewn oes i gannoedd o fechgyn o bob rhan o’r wlad.
Grŵp hynod boblogaidd yn mynd ar wibdaith drwy ganeuon gwerin ac emynau Cymraeg, ynghyd ag opera a theatr gerdd, yr holl ffordd i ganu Pop a Swing. Rhywbeth i floeddio amdano!
25 Tachwedd 2018
"It’s dinner time in the monkey house, and I’ve got the spoon."
Mae’r digrifwr sydd wedi ennill gwobrau BAFTA a Perrier wedi cychwyn ar ei daith newydd sbon – a dyma’ch cyfle chi i ymuno â fe yn nhŷ’r mwncïod.
Yn fwy nag erioed, mae angen ongl unigryw Dylan Moran ar gariad, gwleidyddiaeth, digalondid a gwiriondeb bywyd, a’r cyfan gyda’i ddawn dweud nodweddiadol.
Mae rhai wedi’i alw yn Oscar Wilde y byd comedi, ac mae ei arddull adnabyddus – di-wên, ffraeth a gwallgof – yn addo taith na ddylech ei cholli sy’n osgoi ystrydebau er mwyn cynnig dehongliad brathog o’r byd hynod rydyn ni’n byw ynddo heddiw.
19 Hydref 2018
Salíwt gerddorol i gofnodi canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol. Mae hwn yn fwy na digwyddiad un tro yn y Ganolfan – mae’n ddigwyddiad unwaith-mewn-canrif!
Cyfle i fod yn rhan o’r deyrnged yma a dangos eich cefnogaeth i’r Awyrlu Brenhinol wrth iddo nodi can mlynedd o wasanaeth i’r Deyrnas Unedig.
Bydd tonau milwrol clasurol gan gynnwys Gorymdaith y Dambusters a Ffiwg y Spitfire yn hedfan ochr yn ochr â sain band mawr Keep ‘em Flying ac In the Mood Glenn Miller.
Bydd unawdwyr yr Awyrlu, y Corporal Matthew Walker a’r Uwch-awyrluyddwraig Philippa Hobbs, yn perfformio caneuon hynod boblogaidd gan gynnwys Come Fly With Me, Mr Blue Sky, Stars a Miss Otis Regrets. Mae’r cyngerdd cerddorol o safon fyd-eang yma yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau swyddogol RAF100.
24 Tachwedd 2018
Jazz, comedi gerddorol a chlasuron Hollywood gan Gymraes y sioeau cerdd... Merch o Aberystwyth yw Rachel Williams, sydd wedi teithio llwyfannau Paris a Llundain er mwyn dod â’r campwaith hunan-gofiannol yma sy’n llawn cabaret a sgwrsio yn ôl i ni yn y Ganolfan.
Cawn fynd ar wibdaith gyda Rachel, o’i chipolwg cyntaf ar fod yn llygaid y cyhoedd mewn eglwys yn Aberystwyth, drwy ysgol ddrama a dosbarthiadau ballet yn Llundain i’r Moulin Rouge ym Mharis, heb anghofio tipyn o gymdeithasu moethus yn LA, i ran yn Cats ar y West End.
Gan amrywio o’r bloeddio i’r bywiog, o rannu cyfrinach i rannu poen – yn y pen draw, mae’n fyfyrdod teimladwy ar bwy oedden ni ar un adeg a phwy ydyn ni erbyn hyn... ac yn gyfle unigryw i weld byd y sioeau o safbwynt Cymraes.