Cyfle Newydd: Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Dwyieithog)
Cyd-gynhyrchiad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol i fod yn rhan allweddol o’r tîm creadigol wrth i ni greu sioe gerdd gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg. Bydd y cyfarfwyddwr cynorthwyol yn gweithio ochr yn ochr â’r cyfarwyddwr Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, wrth ddatblygu, paratoi a gwireddu ei weledigaeth ar gyfer y cynhyrchiad prif lwyfan yma.
Bydd y cynhyrchiad uchelgeisiol yma yn agor ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru cyn teithio Cymru ym mis Tachwedd 2023.
Bydd y rôl yn cyfrannu’n weithredol at y broses o ymarfer a chynhyrchu.
CYFRIFOLDEBAU
- Gweithio ochr yn ochr â’r cyfarwyddwr wrth greu’r cynhyrchiad.
- Cyfrannu’n weithredol at y broses o ymarfer a chynhyrchu.
- Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd cynhyrchu.
- Bod yn gyfrifol am gefnogi ymarferion gyda chast ifanc mewn lleoliadau amrywiol.
- Cymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu â’r gymuned fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r cynhyrchiad.
- Arwain ar ambell i agwedd o’r broses ymarfer, yn ddibynnol ar brofiad.
- Ymrwymiad i weithio mewn ffordd gynhwysol a hygyrch.
GOFYNION
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol:
- Diddordeb brwd mewn ysgrifennu newydd.
- Dealltwriaeth dda o theatr gyfoes yng Nghymru.
- Ymrwymiad i weithio mewn ffordd gynhwysol a hygyrch.
- Parodrwydd i deithio o amgylch Cymru.
- Profiad o greu theatr yn broffesiynol.
Gofynion Dymunol:
- Y gallu i ddarllen cerddoriaeth a/neu brofiad cadarn o weithio gyda cherddoriaeth mewn cyd-destun theatraidd.
- Profiad o weithio gyda chymunedau a phlant
Rhaid bod ar gael ar y dyddiadau canlynol:
- 5 – 9 Mehefin 2023 ym Mangor.
- 18 Medi – 25 Tach 2023 yng Nghaerdydd.
- Sgyrsiau creadigol rheolaidd dros Zoom.
TELERAU
Ffi o £6,000 i’w dalu mewn rhanddaliadau, yn ogystal â chostau teithio, llety a chynhaliaeth.
PROFIAD
Dyma gyfle gwych i rywun sydd â phrofiad o hanfodion y rôl a’r modd y mae ystafell ymarfer yn gweithio.
PROSES YMGEISIO
Anfonwch e-bost at artists@wmc.org.uk yn nodi CYFLE CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL erbyn 17 Chwefror 2023.
Rhaid i’r e-bost gynnwys y canlynol:
- Dy reswm dros ymgeisio am y cyfle.
- Yr hyn sydd gen ti i gynnig i’r prosiect.
- CV cyfredol.
CYFWELIAD: w/c 27 Chwefror 2023