Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod y cerddor a chynhyrchydd Cymreig Cate Le Bon yn ymuno â Gŵyl y Llais fel curadur gwadd yn 2020.
Yn dilyn llwyddiant Reward, ei phumed albwm stiwdio a enwebwyd am wobr Mercury, mae’r artist Cymreig yn dod â’i llais unigryw ei hun ac eraill i Ganolfan Mileniwm Cymru.
"Mae’n wirioneddol fraint i guradu rhan fach o’r ŵyl anhygoel yma. Mae’n annog curaduron i daflu’r rhwyd yn bell a dod â lleisiau ystyrlon i ddinas Caerdydd."
Cate Le Bon
Ynghyd â pherfformio i ni, bydd Cate hefyd yn curadu rhan o raglen yr ŵyl - lle bydd hi'n cyflwyno rhai o'i hoff artistiaid rhyngwladol sy'n ei hysbrydoli, felly byddwn ni'n disgwyl yr annisgwyl.
"Mae’n beth hyfryd i roi sylw i leisiau sy’n dod â llawenydd, sy’n arwain, yn ysbrydoli, yn herio, yn lleddfu ac yn ein huno ni tra bod rhaniad gwleidyddol a digysylltiad yn cael eu hannog."
Cate Le Bon
Disgrifiodd Jeff Tweedy o Wilco Cate fel 'un o'r goreuon sy'n creu cerddoriaeth ar hyn o bryd', ac mae dull anarferol Cate o greu cerddoriaeth yn gwneud iddi swnio'n anhygoel o unigryw - o ganeuon crefftus a swreal i bop gwreiddiol a beiddgar, felly peidiwch â'i methu.