Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Charles Hazlewood yn sôn am darddiad Death Songbook

Mae Death Songbook gan Paraorchestra, a gafodd ei recordio ar lwyfan Theatr Donald Gordon yng nghanol y cyfnod clo i’w ddarlledu ar-lein gan BBC Cymru Wales ym mis Mawrth 2021 yn ystod GŴYL 2021, yn cael ei berfformio’n fyw ar 29 Hydref yn Llais.

Cyn y perfformiad, buon ni’n sgwrsio â Charles Hazlewood, Cyfarwyddwr Artistig Paraorchestra, am y prosiect.

ALLWCH CHI SÔN WRTHON NI AM DARDDIAD DEATH SONGBOOK? SUT DAETH Y PROSIECT I FOD?

Marwolaeth yw'r tabŵ mawr olaf. Yn ddealladwy, dydyn ni ddim am ei hwynebu ac rydyn ni’n gwneud unrhyw beth i osgoi meddwl neu siarad am y peth. Ac eto mae'n borth mae'n rhaid i ni – a'r holl bobl rydyn ni’n eu caru – fynd drwyddo. Mae’n digwydd i bawb.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, gwnaeth fy nghyn-wraig, Henri Lang, guradu gŵyl wych a oedd yn dathlu marwolaeth fel rhywbeth i’w gofleidio a bod yn gyfforddus ag ef. Ces fy swyno a fy ysbrydoli gan y cysyniad yma a gwnaeth i fi ddechrau meddwl am farwolaeth, yn holl ystyron y gair, fel catalydd cyfoethog ar gyfer creadigrwydd. Mae peth o'r gelfyddyd orau yn ymwneud â thristwch ac mae gormodedd o gerddoriaeth wedi'i hysgrifennu am farwolaeth, neu farwolaeth cariad, am bryder, am golled, neu dorcalon; ac mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r gerddoriaeth, ymhell o fod yn ddigalon. Mae’n gallu bod yn hynod gathartig, yn gynnes ac yn gysur. 

"Os feddyliwch chi am yr holl gerddoriaeth sydd wedi’i ysgrifennu am farwolaeth...mewn gwirionedd mae'r rhan fwyaf o'r gerddoriaeth, ymhell o fod yn ddigalon."

Charles Hazlewood

Dw i wastad wedi bod yn ffan o waith Brett Anderson, ac yn digwydd bod, mae e wedi bod yn ffan mawr ohona i ers tro hefyd. Roedden ni wedi bod yn ffrindiau ers tro pan wnes i hanner gynnig y syniad yma o wneud casgliad o ganeuon am farwolaeth, ac roedd e’n awyddus iawn. (Dyma yw ei faes naturiol hefyd). Roedd hefyd yn awyddus i weithio gyda'r ystod eang o ddoniau a synau yn y Paraorchestra, felly, gyda'r cyfansoddwr unigryw, Charlotte Harding, aethon ni ati i greu.

Yn ddigon priodol, cafodd ei recordio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod un o’r cyfnodau clo tywyll – oedd ddim yn orchest hawdd. Roedd yn gyfnod anodd i ni gyd, ond daeth Death Songbook â llawer o optimistiaeth mewn cymaint o ffyrdd. Rydyn ni’n hynod falch o ddod â’r sioe ‘adref’ ar gyfer y perfformiad byw cyntaf.

ALLWCH CHI SÔN AM Y CANEUON AR Y RHESTR TRACIAU? OES GANDDOCH CHI HOFF GÂN NEU GÂN SY’N TEIMLO’N BERTHNASOL I CHI? 

Treuliodd Brett a fi sawl mis hwyliog iawn ar WhatsApp, gan fynd yn ôl ac ymlaen yn awgrymu traciau; yn llythrennol mae ’na gannoedd o ganeuon am golled, galar, colli cariad ac ati y gallen ni fod wedi eu dewis. Roedd hi’n anodd iawn dewis.

A man with brown hair sings into a microphone
Brett Anderson (Kirsten McTernan)

Dw i’n meddwl mai un o’r pethau roedd Brett yn poeni fwyaf amdano oedd rhoi gormod o’i ganeuon ei hun i mewn i’r set. Ond dw i’n falch fy mod wedi gallu ei berswadio. Mae He's Dead ac Unsung, y naill yn gân ochr-B gan Suede a'r llall yn drac unigol gan Brett, yn rhannau mor bwerus o'r casgliad. A’r ffordd mae e’n eu canu – mae fel y Britpop gorau erioed a dweud y gwir, mae'n well na fuodd Britpop erioed dw i’n meddwl.

"Nid cyfyrs yw’r rhain...mae'r rhain yn fersiynau sy'n gwneud i chi edrych ar y rhai gwreiddiol drwy sbectol wahanol, o bwynt ychydig yn wahanol ar y cwmpawd, wedi'u haddurno mewn ffordd newydd, gan wasgu sudd ffres mas ohonyn nhw."

Charles Hazlewood

Fy ffefryn yw Nightporter. Japan, yn ddieithriad, oedd y band pwysicaf i fi pan oeddwn yn fy arddegau. Roedd gen i'r gwallt mawr, roedd gen i'r siwtiau wedi'u padio ar yr ysgwyddau, roedd gen i'r colur. Chi’n gwybod, mor aml byddech chi’n dod i hoffi rhyw fath o gerddoriaeth pan oeddech chi’n 16 oed, ac yna’n gwrando ar y gerddoriaeth eto pan rydych chi'n 36 oed ac yn sylweddoli nad oes ganddo ddim byd o gwbl i'w ddweud wrthoch chi – mae fel petai’n hollol estron i chi ac allwch chi ddim meddwl sut ar y ddaear y llwyddodd i’ch meddiannu chi yn y ffordd y gwnaeth unwaith? Ond yn rhyfedd, mae cerddoriaeth Japan yn dal i siarad â fi nawr, gyda'r un math o ddisgleirdeb ac eglurder.

Felly, Nightporter gan Japan ro’n i fwyaf cyffrous yn ei gylch – ond yn poeni fwyaf yn ei gylch. Ymyrryd â gwaith eich arwyr – mae hwnna bob amser yn lle peryg i fynd iddo. Ond, yn rhannol oherwydd set sgiliau Charlotte Harding i allu sgorio, yn rhannol oherwydd y buddsoddiad rhyfeddol mae Brett yn ei wneud yn y trac, mae'n cael bywyd newydd ac yn dod yn rhywbeth ar wahân i Japan – rhyw bwynt gwahanol ar y cwmpawd, symudiad bach yn y patrwm. Roedd pa mor dda y gweithiodd hynny yn rhoi boddhad mawr i fi.

ALLWCH CHI SÔN AM Y TAIR CÂN NEWYDD RYDYCH WEDI’U CYFLWYNO AR GYFER Y PERFFORMIAD BYW YMA O DEATH SONGBOOK?

Rydyn ni’n cyflwyno tair cân newydd i’r set fyw: cân Suede o’u halbwm newydd, sef She Still Leads Me On sydd â rhyw ansawdd hypnotig, di-ildio, crafu-hen-glwyf iddi, tra ar yr un pryd, hefyd yn teimlo'n galonogol iawn. Yn ail, Enjoy The Silence gan Depeche Mode, banger eithaf adnabyddus - mae unrhyw un rhwng tua 20 a 90 oed yn nabod y gân yma. Ac eto, gallwch chi ddisgwyl rhywbeth gwahanol iawn: fydd hi’n sicr ddim yn swnio fel cân Depeche Mode. Yn olaf, rhywbeth sy'n gwneud i fi gochi ychydig ond sydd hefyd yn rhoi llawenydd mawr i fi, yw bod Brett a fi wedi dechrau ysgrifennu gyda'n gilydd. A ffrwyth cyntaf y llafur yna yw cân fach eithaf amrwd ac eithafol o’r enw Brutal Lover y byddwn yn ei gwneud fel band o ddau.

ALLWCH CHI SÔN YCHYDIG AM Y TREFNIANNAU YN DEATH SONGBOOK, SUT MAE NHW'N WAHANOL I'R GWREIDDIOL?

Mae Charlotte Harding yn hanfodol i'r prosiect yma. Mae hi wedi bod yn un o'n ffrindiau cyfansoddi agosaf, ers y cychwyn bron. Hi oedd o leiaf 50% yn gyfrifol am greu kraftwerk: rewerk, hi oedd y sgoriwr arbennig y tu ôl i The Unfolding gan Hannah Peel a Paraorchestra, ac yn Death Songbook nid cyfyrs mae hi wedi’u gwneud, mae'r rhain yn fersiynau sy'n gwneud i chi edrych ar y rhai gwreiddiol drwy sbectol wahanol, mewn gwisg newydd, o bwynt ychydig yn wahanol ar y cwmpawd, wedi'u haddurno mewn ffordd newydd, gan wasgu sudd ffres mas ohonyn nhw. Mae Charlotte yn benigamp yn gwneud hynny. Mae It's A Wonderful Life, er enghraifft yn gân blastig wych o'r 80au, sydd yn ein fersiwn ni'n swnio fel cymysgedd o drwbadwriaid canoloesol a rhyw fath o Rêf y 90au.

MAE YNA OFFERYNNAU GWAHANOL A RHYFEDD YN Y DARN YMA. ALLWCH CHI SÔN MWY AM RHAIN A BETH FYDDAN NHW’N EI YCHWANEGU AT Y PERFFORMIAD?

Wel, yn gyntaf ac yn bennaf, mae'n bwysig pwysleisio ein bod ni yn Paraorchestra yn credu bod gan y gair 'cerddorfa' ddiffiniad llawer ehangach nag y mae pobl fel arfer yn ei gysylltu â fe. Nid fiolas, oboau, clarinetau, baswnau, cyrn Ffrengig ac ati wedi’u trefnu mewn ffordd benodol a thraddodiadol iawn ar lwyfan yn unig yw hi. I fi, ac i Paraorchestra, mae cerddorfa’n golygu casgliad o gerddorion, heb unrhyw reolau yn diffinio'r casgliad o offerynnau yn yr ensemble.

“Mae It's A Wonderful Life ... yn gân blastig wych o'r 80au: yn ein fersiwn mae'n swnio fel cymysgedd o drwbadwriaid canoloesol a rhyw fath o Rêf y 90au.”

Charles Hazlewood

Mae ganddon ni’r offerynnau chwythbren arferol yn Death Songbook ond, yn anarferol mae yna deulu cyfan o recorders yn rhan o’r adran chwythbrennau hefyd. Rydyn ni’n gwneud defnydd rhyfedd ac achlysurol o’r fiola a’r soddgrwth a’r bas dwbl. Mae fy adran i, sef adran allweddellau’r ensemble, yn cynnwys hen harmoniwm wichlyd, Selesta llewyrchus a llachar, ac yna’r offeryn sydd yng nghanol yr adran sef fy mhiano trydan Wurlitzer, sef un o fy hoff bethau.

Rhywbeth rydyn ni wedi arbrofi tipyn gyda fe yw'r syniad yma o droi offeryn neu adran – y chwythbrennau, er enghraifft – yn fath o syntheseisydd mawr, gan roi'r allbwn sonig drwy lwyth o beiriannau Bitcrusher a hidlyddion fel eu bod wedi’u haddasu mewn ffyrdd rhyfedd iawn o’r sain wreiddiol.

Mae'r rhain i gyd yn offerynnau rydyn ni'n gyfarwydd â nhw, ond rydyn ni'n eu clywed mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae fel edrych mewn drych pŵl – mae’n brofiad gwefreiddiol arwain y gynulleidfa i’r man lle maen nhw’n disgwyl mynd iddo leiaf o ran y sain.

BETH WNAETH EICH ARWAIN CHI I DDEWIS GWENNO FEL GWESTAI ARBENNIG AR DEATH SONGBOOK A BETH YDYCH CHI'N RHAGWELD Y BYDD HI’N EI GYNNIG I'R PERFFORMIAD?

A woman with brown hair wearing a strappy black dress stares at the camera
Gwenno (Clare Marie Bailey)

Dw i wedi dilyn gyrfa Gwenno gyda llawer iawn o ddiddordeb. Mae hi a Brett yn adnabod ei gilydd ers tro, ac mae hi wedi cefnogi Suede ar daith, felly syniad Brett oedd y byddai hi’n westai arbennig perffaith. Mae gan ei llais ryw fath o ddisgleirdeb a llewyrch iddo, a fydd yn asio’n berffaith ac yn gwrthbwyso â thonau rhyfeddol Brett. Dw i’n meddwl y bydd yn wych. Dw i wrth fy modd.

SUT MAE DEATH SONGBOOK YN CYD-FYND Â CHENHADAETH Y PARAORCHESTRA I AILDDYFEISIO’R GERDDORFA AR GYFER YR UNFED GANRIF AR HUGAIN?

Yn gyntaf ac yn bennaf, mae Paraorchestra yn ymwneud â chyflwyno pethau newydd, rydyn ni'n dweud bod cerddorfa yn gallu bod yn llawer mwy na chysyniad cyfyngedig - does dim rhaid defnyddio trefniant safonol o offerynnau safonol sy'n chwarae repertoire safonol, sy'n hygyrch i rai pobl yn unig. Rydyn ni’n sôn am gerddorfa sy’n gydbwysedd gwirioneddol o gerddorion sydd ag anableddau a hebddynt, cerddorion proffesiynol o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchiad gwell o gymdeithas fodern.

Oherwydd gellir dadlau mai cerddoriaeth yw'r iaith fwyaf cyffredinol sydd ganddon ni, ac mai’r gerddorfa yw'r ffurf fwyaf o amlygu'r cyffredinolrwydd hwnnw. Mae'n anhygoel pan edrychwch yn ôl, 50 mlynedd er enghraifft, ac edrych ar lun o gerddorfa symffoni. Faint o ferched sydd yn y symffoni? Dim, bron? Mae'r syniad o beidio â chael cydraddoldeb llwyr o ran rhywedd mewn cerddorfa nawr yn chwerthinllyd. Ond wrth gwrs, mae cymaint mwy i'w wneud. Drwy beidio â chynnwys cerddorion ag anableddau, rydyn ni nid yn unig yn bod yn annheg iawn, ond rydyn ni hefyd yn colli doniau arbennig. Mae'n wastraff aruthrol ar dalent i beidio â gweithio gyda cherddorion nad ydyn nhw'n ffitio’r mowld safonol, felly mae Paraorchestra yn canolbwyntio ar hynny, ac mae Death Songbook yn ffordd o rannu’r athroniaeth yna mewn modd llawen iawn.

BETH YDYCH CHI’N EDRYCH YMLAEN FWYAF ATO YN Y GIG YMA?

Dw i bob amser wrth fy modd yn perfformio gyda Paraorchestra. Mae’n gasgliad o gerddorion hael a chariadus, a phan fyddwn yn creu cerddoriaeth gyda’n gilydd, mae’n hollol hudolus, yn ddieithriad. Mae gweithio gyda Brett wedi bod, ac yn parhau i fod, yn bleser; mae yna aliniad creadigol sy'n gwneud i bopeth lifo, yn ddiymdrech bron. Mae e mor brysur ar hyn o bryd, gyda’r albwm Suede a’r daith o gwmpas Prydain cyn hir, a dw i’n teimlo ei bod yn dyst gwirioneddol i’w fuddsoddiad yn y prosiect yma ei fod yn gallu neilltuo amser i wneud y gig yma.

Dw i wrth fy modd, fel bob amser, y bydd un o fy ffrindiau pennaf a hynaf, Adrian Utley o Portishead, yn ymuno â ni eto. Mae'r dyn yna'n dod â gogoniant a phosibilrwydd mor brydferth i unrhyw fyd sain mae'n ymwneud â fe. Ac yna wrth gwrs, mae Seb Rochford o Pulled by Magnets - yn syml iawn, y drymiwr gorau ar y blaned. Fe hefyd yw'r drymiwr meddalaf ar y blaned. A’r drymwyr meddalaf yw’r rhai gorau, yn fy marn i.

Felly, hynny i gyd - rydyn ni'n dod â Death Songbook adref, i'r man lle cafodd ei eni, ac alla i ddim aros i'w rannu â chynulleidfa fyw.

Mae Death Songbook yn cael ei berfformio nos Sadwrn 29 Hydref 2022 am 7.30pm. Dod o hyd i docynnau.