Mae The Beauty Parade – ein cynhyrchiad mewnol cyntaf yn 2020 – yn glanio yn Stiwdio Weston yr wythnos hon, ar ôl dwy flynedd o waith datblygu. Ond sut y daeth y syniad i fodolaeth?
Mae Kaite O’Reilly, awdur a chyfarwyddwr The Beauty Parade, a Graeme Farrow, ein Cyfarwyddwr Artistig, yn rhannu cyfrinachau am y stori gudd hon o’r Ail Ryfel Byd, ac yn esbonio pam rydym wedi dewis ei hadrodd...
Kaite O’Reilly
Awdur / Syniad / Cyd-Gyfarwyddwr
“Clywais am ‘The Beauty Parade’ am y tro cyntaf dros ugain mlynedd yn ôl, pan o’n i’n cyfweld Molly Schuesselle – cyn-Dorrwr Codau yn yr Ail Ryfel Byd, a ddaeth yn ffrind agos i mi. Bu Molly’n gweithio gyda pheilot oedd yn gollwng asiantau benywaidd Prydeinig – a oedd wedi derbyn ychydig o hyfforddiant brysiog – y tu ôl i linellau’r gelyn yn Ffrainc rhwng 1941–44; yr enw cod ar y prosiect oedd ‘The Beauty Parade.’ Cadwodd Molly yr wybodaeth hon iddi’i hun am dros hanner canrif, oherwydd ei bod wedi arwyddo’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol. Fi oedd y person cyntaf iddi siarad â hi mewn unrhyw ddyfnder am y gwaith hwn.
Ers degawdau lawer, rwyf wedi bod yn awyddus i archwilio straeon y ‘menywod cyffredin’ di-enw yn y rhyfel, rhai a gwympodd rhwng y craciau, ac efallai na ddychwelodd: menywod y mae eu gorchestion hyd yn oed yn awr ynghudd mewn ffeiliau dirgel, o ganlyniad i natur gyfrinachol eu gwaith adeg y rhyfel.
Daeth fy nghyfle, diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a ddyfarnodd Wobr Dyfarniadau Cymru Greadigol i mi i’m galluogi i arbrofi gyda ffurf. Gan adeiladu ar fy 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag ymarferwyr theatr Byddar, es ati i archwilio’r potensial creadigol o gyd-blethu ieithoedd llafar, ar gân, wedi eu taflunio, cerddorol a gweledol i greu perfformiad, gan weithio gyda dwy fu’n cydweithio dros gyfnod hir, sef Sophie Stone a’r cyfansoddwr Rebecca Applin. Roedd ein proses yn un anarferol.
Byddwn i’n ysgrifennu’r deunydd, ac yn dewis peth ohono i Sophie ei drawsnewid yn iaith weledol; yna byddem yn cwrdd, yn caboli’r deunydd gweledol, gwneud fideo ohono ac yna ei rannu gyda Becky, oedd yn cyfansoddi gan ddilyn tempo-rythmau iaith weledol Sophie. Mae’r broses a’r canlyniad yn anghyffredin: mae’r gerddoriaeth yn dilyn y perfformiwr, ac nid fel arall fel sy’n fwy arferol.
Rwy’n hynod ddiolchgar i Ganolfan Mileniwm Cymru ac i’n cynhyrchydd, Emma Evans, a ddeallodd botensial y prosiect hon, ac a gynigiodd gartref i ni er gwaetha’r ffaith fy mod wedi mynnu glynu at y y broses anarferol.”
Graeme Farrow
Cyfarwyddwr Artistig, Canolfan Mileniwm Cymru
Mae The Beauty Parade yn adrodd straeon y menywod rhyfeddol fu’n chwarae rhan holl bwysig, peryglus ond cudd yn yr Ail Ryfel Byd. Mae’n fraint cael dadlennu’r hanesion hyn ac anrhydeddu’r menywod anweledig sydd, hyd yma, wedi diflannu o’n hanes.
Bu’n brofiad hyfryd i gyd-gynhyrchu’r darn hwn gyda Kaite O’Reilly, sy’n wneuthurwr theatr gwbl arloesol. Fel artist sydd wedi torri tir newydd ym maes arfer cynhwysol, roedd ei gwybodaeth, ei phrofiad a’i dawn yn ganolog i’r gwaith o ddod â’r straeon hyn yn fyw. Mae hi’n creu gwaith sy’n procio’r meddwl, yn greadigol ac yn hygyrch.
Gyda Kaite, rydym wedi archwilio dulliau newydd ac arloesol o weithio, a bu’n brofiad hynod gyffrous i greu gwaith ac iddo iaith weledol, cerddoriaeth a thestun. Darn aml-haenog yw’r canlyniad, a gobeithiwn y caiff ei weld a’i fwynhau gan gynulleidfa eang.
Gyda’r cyd-gynhyrchiad hwn rydym yn parhau â’n gwaith sy’n dathlu’r llais yn ei holl ffurfiau, a’r cyfrifoldeb sydd gennym i roi llais i’r rhai sydd wedi cael eu hanghofio neu wedi eu dileu o’n hanes. Pleser o’r mwyaf yw dathlu’r menywod anhygoel hyn. Mae’n brofiad cyffrous ac yn gyfrifoldeb mawr i chwarae ein rhan wrth adrodd un o straeon mwyaf anhygoel yr 20fed ganrif.
Ymarferion The Beauty Parade
Cynhelir The Beauty Parade ar 5–14 Mawrth.
Mae pob perfformiad yn hygyrch i gynulleidfaoedd B/byddar, gyda Chapsiynau Agored ac iaith weledol.