"Ro'n i eisiau creu sioe oedd yn ddigyfaddawd o gwiar, ac yn ddigyfaddawd fi."
Luke Hereford
Rydyn ni'n falch i hyrwyddo artistiaid LHDTC+, gan arddangos a chefnogi eu doniau anhygoel drwy gydol y flwyddyn. Roedd ein cyd-gynhyrchiad Grandmother's Closet yn dilyn taith hunanddarganfod cwiar Luke Hereford, a chyfareddodd gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a Gŵyl Ymylol Caeredin.
Blwyddyn ar ôl rhediad yn ein Stiwdio Weston a werthodd allan, roedd y cwpwrdd dillad ar agor eto, wrth iddyn nhw ddychwelyd i ofod Cabaret newydd sbon i lwyfannu eu sioe pum seren unwaith eto. Wrth i ni ddathlu Mis Pride, rydyn ni’n taflu goleuni ar Luke, sy’n rhannu sut ddaeth stori mor bersonol o’r sgript i’r llwyfan.
Syrthiodd y darn cyntaf o gliter o stori Luke am hunanddarganfod, teulu a derbyn ym mis Ebrill 2022, ac mae’r sioe wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y DU a dramor, gan gynnwys cyfnod yng Ngŵyl Ymylol Caeredin fis Awst diwethaf.
Wrth dyfu i fyny mewn cymuned agos yn Ne Cymru, roedd Luke yn dibynnu ar eu mam-gu fel cefnogwr personol i’w harwain drwy eu plentyndod cwiar. Cymysgodd datguddiadau wrth wisgo ffrogiau eu mam-gu i fod yn Judy Garland a’u cyflwyniad cyntaf i Jake Shears a Scissor Sisters â hanesion eu digwyddiad Pride cyntaf a dod o hyd i’r lliw lipstic perffaith, gyda chaneuon gan Madonna, Kylie, Kate Bush a’u hoff difas pop eraill fel trac sain.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i bawb, ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi ac arddangos artistiaid a pherfformwyr cwiar, mis yma a phob mis. Beth am archebu sedd yn Cabaret un penwythnos a darganfod byd o bleserau annisgwyl a difyr?