Rydyn ni’n drist iawn am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ac rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau diffuant at y Teulu Brenhinol.
Agorodd y Frenhines Ganolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac ymwelodd â’n hadeilad ar sawl achlysur fel cefnogwr brwd o’r theatr a’r celfyddydau. Mae gennym atgofion hapus iawn o’r ymweliadau ac eiliadau arbennig hyn.