Mae rhai wedi honni mai Eisteddfod eleni oedd y gorau erioed ond beth bynnag y bo, roedd hi’n bleser bod yn rhan ohoni a rhoi cartref i’r brifwyl am wythnos gyfan.
Adeiladwch y maes ac arhoswch am y dorf, ac yn wir, daeth môr o bobl i’r Eisteddfod eleni gyda 25,000 person ar gyfartaledd yn camu drwy ein drysau ni bob un dydd.
Ac roedd yr holl ganu’n waith sychedig i unrhyw un yn y Pafiliwn gyda 2187 o baneidiau te yn cael eu gwerthu yn y Caffi a Ffresh.
Bu’r haul yn tywynnu (y rhan amlaf) a daeth Eisteddfodwyr rheolaidd o Gymru a thu hwnt, trigolion Caerdydd a thwristiaid chwilfrydig o bedwar ban byd at ei gilydd i greu naws hyfryd ym mhob ffordd.
Felly cymerwch eich sedd, ymlaciwch a mwynhewch y wledd o ddathlu a ddigwyddodd gydag Eisteddfod 2018…..
Mae bob llun unai’n perthyn i ninnau neu’r Eisteddfod.
Ewch i https://eisteddfod.cymru/eisteddfod-2018 am lwyth o uchafbwyntiau, lluniau a fideos eraill am y digwyddiad eleni.