Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
La traviata

Pum rheswm pam ein bod wedi gwirioni â La traviata

Cyn y perfformiadau yng Nghaerdydd, eich cwmni opera preswyl Opera Cenedlaethol Cymru sydd i rannu pum rheswm pam eu bod yn caru La traviata gan Verdi.

Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu ein cynhyrchiad hynod boblogaidd o La traviata yn ôl i’r llwyfan. Dyma bum rheswm pam ein bod wedi gwirioni â'r opera hon, a pham y dylech chi ddod i weld y clasur hwn drwy eich llygaid eich hun yr hydref hwn. 

Mae’n hynod gyfarwydd

Mae La traviata gan Verdi wedi ymddangos mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, hysbysebion a hyd yn oed ar garped coch y Grammys. Waeth bynnag, ei foment enwocaf mewn diwylliant poblogaidd yw yn y ffilm Pretty Woman (ffilm sy’n efelychu stori Verdi) pan mae Edward, cymeriad Richard Gere, yn mynd â Vivienne, cymeriad Julia Roberts, i berfformiad o La traviata.

Darllenwch ein blog La traviata mewn diwylliant poblogaidd, er mwyn darganfod lle arall y gallech chi fod wedi'i gweld. 

Mae’n stori am yr arwr annhebygol

Mae Violetta Verdi yn alltud, yn ferch ar gyrion cymdeithas, sy’n cwympo mewn cariad, ac mae’r gynulleidfa yn ysu iddi gael diweddglo hapus. Fodd bynnag, nid dyma’r ffocws yma; roedd noson agoriadol La traviata yn Nhŷ Opera La Fenice yn Venice ar 6 Mawrth 1853, yng ngeiriau Verdi, yn ‘ffiasgo’. Nid oedd y gynulleidfa’n or-hoff o Fanny Salivini-Donatelli a oedd yn rhy hen, yn eu barn nhw, i chwarae rôl y butain Violetta, ac roeddent yn gwatwar y prif ddynion. Er gwaethaf y perfformiad cyntaf trychinebus hwn, mae La traviata wedi mynd ymlaen i ddod yn un o operâu mwyaf poblogaidd y byd. 

Mae’n llawn grym merched 

Ar adeg pan mae grym merched ar gynnydd unwaith eto, diolch i ffilm fawr yr haf Greta Gerwig, sef Barbie, mae’n bwysig cydnabod y thema hon yn stori glasurol Verdi. Yn y ffilm, mae Margot Robbie yn ymadael â Barbieland er mwyn teithio i Galiffornia, lle caiff ei siomi ar yr ochr waethaf o weld bygythiad cymdeithas wedi’i dominyddu gan ddynion, a chaiff ei beirniadu am fentro i fod yn wahanol. Mae hyn yn debyg i Violetta, wrth iddi adael ei bywyd ar ei hôl, ac yn cael ei beirniadu gan unigolion yn ei byd newydd. Er bod trafod putain sy’n cael ei gwrthod gan bawb fel ffigwr grymus i ferched yn ymddangos yn rhyfedd, mae Verdi yn ein gwneud yn hynod ymwybodol o’r safonau dwbl mewn cymdeithas wedi'i dominyddu gan ddynion, yn benodol yn y ffordd maent yn annog puteindra ond yn troi eu trwyn ar y canlyniad. Drwy gydol yr opera, mae Verdi yn cydymdeimlo â helyntion Violetta, ac yn dangos ei chalon garedig a chariadus, sy'n rhoi'r gynulleidfa yn gadarn ar ei hochr hi. 

Nid yw byth yn mynd allan o steil

Mae’r dylunydd Tanya McCallin yn dychwelyd i roi bywyd i fanylion mawr Paris y 19eg ganrif. Mae Tanya wedi dylunio’n helaeth ar gyfer opera, gyda’i gwaith yn cynnwys The Barber of Seville (English National Opera), Rigoletto a Carmen (Royal Opera House) a Così fan tutte (Strasbourg, Scottish Opera). Gyda gwisgoedd lliwgar a setiau anhygoel wedi'u hysbrydoli gan glybiau digon llwm Paris y 19eg ganrif, mae La traviata yn wledd i’r llygaid. Dysgwch pam fod ein cynhyrchiad yn edrych fel y mae drwy ddarllen ein blog, Ffasiwn Parisaidd 

Mae’n opera o’r radd flaenaf

Cariad, tor-calon, bradychiad, cenfigen, partïon, rhyddhad, aberth, marwolaeth, a’r gerddoriaeth fwyaf adnabyddadwy o fyd opera... mae gan La traviata y cyfan. Mae’n un o’r operâu sy’n cael ei pherfformio amlaf bob blwyddyn, ac nid oes syndod ei bod wedi'i phleidleisio’n un o operâu gorau’r byd.

Profwch swyn La traviata yr hydref hwn wrth iddi ddod yn fyw, diolch i gast anhygoel sy’n cynnwys Stacey Alleaume fel Violetta a David Junghoon Kim fel cannwyll ei llygaid, Alfredo.

Tocynnau + gwybodaeth