Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Galwad agored: Mynegi diddordeb mewn trafodaeth am AI

Yn dilyn adborth am ein cwrs creadigol â chymorth AI i bobl ifanc, byddwn yn cynnal sgwrs gyda phobl greadigol, technolegwyr a phobl ifanc i ddeall ein dull yn well a chynnig lle i drafod.  

Mae effaith AI ar y diwydiannau creadigol yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn siarad amdano. Mae’n destun pryder i lawer, tra bod eraill yn ei weld fel cyfle gwych. Mae’n bosibl y gallai fod yn adnodd hynod ddefnyddiol i gefnogi pobl i gael mynediad at greadigrwydd mewn ffyrdd newydd, yn enwedig unigolion sydd ag anghenion hygyrchedd. Beth bynnag fydd dyfodol y dechnoleg yma, mae’n effeithio ar ein gwaith a’n bywydau, a bydd yn parhau i wneud hynny. Gwnaethom ddechrau rhaglennu ein cwrs Creu Nofelau Graffig gydag AI er mwyn archwilio hyn.  

Mae AI yn faes nad ydym yn arbenigo ynddo, felly rydym wedi gweithio gydag arbenigwyr i ddylunio cynnwys y cwrs. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad ydym wedi bod yn ddigon cadarn wrth i ni graffu ar y feddalwedd a ddefnyddir, na’r defnydd bwriadedig o’r dechnoleg yma. Rydym hefyd yn sylweddoli nad ydym wedi ymgysylltu digon â’r gymuned comics a nofelau graffig. Dylem fod wedi ystyried yn well yr heriau hanesyddol mae artistiaid sy’n gweithio yn y sector yma wedi’u profi ac yn parhau i’w profi o ran ecsbloetiaeth o’u gwaith. 

Felly, rydym yn mynd i ganslo’r cwrs a chynnal sgwrs a fydd yn ceisio dwyn pobl greadigol, technolegwyr a phobl ifanc ynghyd i ystyried beth allai ddigwydd yn y dyfodol. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r digwyddiad yma, e-bostiwch artists@wmc.org.uk a byddwn yn gwneud yn siŵr y cewch eich cynnwys ar y rhestr o wahoddedigion.