Mae gennym ni lu o weithdau cyffrous am ddim ar y gweill dros y gwanwyn, o greu cerddoriaeth ddigidol i sgriptio ar gyfer y radio a dysgu technegau artistig newydd.
Darllenwch yr isod am wybodaeth a pheidiwch â phoeni os nad oes modd i chi fynychu bob sesiwn, byddwn ni'n eich diweddaru chi ar unrhyw beth rydych chi'n ei golli. Er mwyn archebu lle neu os hoffech chi ddarganfod mwy e-bostiwch pelham.g-stevenson@wmc.org.uk.
Ar yr awyr

Mae'r gweithy yma yn berffaith ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 – 19 oed, ac yn eich tywys drwy’r broses sgriptio o’r cysyniad i’r cyflwyniad, tra’n dysgu am holl gyfrinachau’r diwydiant drwy gael cipolwg o ‘gefn llwyfan’.
Ar ddiwedd y gweithdai, cewch chi gyfle i rannu eu gwaith gyda’r gymuned mewn cyflwyniad radio ar Radio Platfform, sef gorsaf radio ieuenctid y Ganolfan.
Bydd Ndidi Spencer, yn eich helpu i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol a chyfathrebu wrth iddynt greu sgript radio newydd ar gyfer y tonfeddi awyr.
Bydd y cwrs hefyd yn ehangu dealltwriaeth y cyfranogwyr o’r diwydiant creadigol yng Nghymru.
I gymryd rhan, ymunwch â ni yn Radio Platfform, bob nos Lun o 9 Mawrth hyd 11 Mai rhwng 6 ac 8 o’r gloch.
Creu Cerddoriaeth Ddigidol

Bydd y cyfres wyth wythnos yma o weithdai technoleg cerddoriaeth am ddim i bobl ifanc rhwng 14 – 19 oed, yn eich dysgu chi am bopeth sydd angen ei wybod am sut i greu caneuon trwy ddefnyddio technoleg ddigidol.
Gan dechrau gyda hanfodion sylfaenol technoleg cerddoriaeth, ac adeiladu at greu eich cerddoriaeth eich hun, bydd y grŵp yma o weithdai yn datblygu hyder ac yn darparu sylfaen gadarn i ddeall technoleg cerddoriaeth.
Arweinir y gweithdai gan Reid’s Digital Music sydd wedi treulio saith mlynedd yn helpu pobl ifanc gyda thechnoleg cerddoriaeth. Byddwch chi''n dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni technoleg cerddoriaeth, hanfodion trefnu caneuon a sut i gymysgu cerddoriaeth.
Bydd y rhaglen yn cloi gyda chyfle i chi greu darn o gerddoriaeth gaiff ei rannu ar ein Radio Platfform. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol er mwyn cymryd rhan yn y gweithdai yma, a darperir yr holl offer angenrheidiol.
Ymunwch â ni yn Uned Un, bob nos Lun o 9 Mawrth hyd 11 Mai rhwng 6pm ac 8pm, i gymryd rhan.
Dy Stori, Dy Lais

Mae Dy Stori, Dy Lais yn gyfres o weithdai ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed a bydd yn cael ei daparu yn Gymraeg, yn sôn am y mathau amrywiol o gelf.
Y tymor yma, arweinir y gyfres o weithdai creadigol gan y dramodydd profiadol Hefin Robinson (enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2016), a bydd yn ffocysu’n benodol ar fynegi syniadau drwy sgriptio. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno’r hanfodion ynghylch sut i ysgrifennu sgriptiau yn Gymraeg, ac yn adeiladu tuag at greu darn byr o waith y cyfranogwyr.
Bydd y gyfres hefyd yn cynnwys gweithdai gan yr artist gweledol Gweni Llwyd, Gweni Llwyd, a fydd yn adeiladu ar yr un straeon ac yn archwilio cyfres o dechnegau artistig i’w helpu i ddod â nhw’n fyw unwaith eto mewn ffurf wahanol ar gelf.
Bydd y gweithdai yma’n helpu i ddatblygu hyder yn ogystal ag ehangu sgiliau allweddol mewn ysgrifennu creadigol a chelf weledol.
Nodwch os gwelwch yn dda: Cyflwynir y gweithdy yma yn Gymraeg, ac er mwyn i chi gymryd rhan rhaid eich bod chi’n gallu deall a siarad Cymraeg i safon dda.
I gymryd rhan, ymunwch â ni yn Unit 1 bob nos Lun o 11 Mawrth hyd 13 Mai rhwng 6pm ac 8pm.
Mae'r gweithdai i gyd am ddim. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch pelham.g-stevenson@wmc.org.uk.