Rydyn ni’n edrych yn ôl ar ddiwrnod trawsnewidiol yn llawn gweithdai rhad ac am ddim, rhwydweithio gwerthfawr a disgo distaw UV – roedd Life Hack 2023 yn fwy nag erioed.
‘Mae wedi fy helpu i fod yn agored gyda phobl newydd... datblygu mwy o hyder.’
Jack, Un o fynychwyr Life Hack
Ym mis Chwefror, daeth dros 70 o bobl ifanc 11–25 oed i The Factory ym Mhorth i ddigwyddiad rhad ac am ddim, a oedd yn eu galluogi i archwilio eu sgiliau creadigol a darganfod llwyth o ddiwydiannau a chelfyddydau. Cafodd y rhai a gymerodd rhan gyfle i gwrdd â gweithwyr proffesiynol artistig, gofyn cwestiynau am eu gyrfaoedd a dysgu am agweddau gwahanol bywyd creadigol.
Gwnaethom ni gynnal gweithdai rhyngweithiol a oedd yn cynnwys theatr, radio, dylunio set a gwisgoedd, creu ffilmiau, cynhyrchu cerddoriaeth, ‘MCing’, AI creadigol, creu llyfrau comics a llawer mwy.
Datblygwyd Life Hack drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd a chaiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n ddigwyddiad a ddechreuodd yng nghymoedd y de, ac mae’n bodoli i danio chwilfrydedd pobl ifanc am lwybrau creadigol – gan roi gofod cynhwysol iddynt lle y gallant fynegi eu hunain a chwrdd â phobl newydd o’r un oed ac arbenigwyr o ddiwydiannau efallai na fyddent wedi cael mynediad iddynt o’r blaen.
Diben Life Hack yw tanio dychymyg y genhedlaeth nesaf o bobl greadigol a dangos i bobl ifanc o Dde Cymru bod llawer o lwybrau creadigol eclectig ar gael. Yma gallwn ni ddangos iddynt sut y gallant lywio’r sgiliau hyn i fod yn addas iddyn nhw fel unigolion a sut y gall cydweithio sbarduno cyfleoedd di-ri. Dylai gofodau creadigol y celfyddydau fod i bawb ac mae’r digwyddiad yma yn helpu i chwalu unrhyw rwystrau a all fodoli.
Codwch y meic, pwyswch ‘record’, camwch i ganol y llwyfan a dangoswch eich talentau i ni. Mae cynulleidfa yn aros.
Os oes gennych chi syniad ar gyfer gweithdy neu os ydych chi’n chwilio am rywbeth penodol i’ch ysgol neu sefydliad, cysylltwch â ni i sgwrsio. I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw beth i wneud â Life Hack, e-bostiwch togetherstronger@wmc.org.uk