Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A young woman climbing up a ladder

NI'N TANIO'R DYCHYMYG: Bethany Davies

Gadawodd Bethany y brifysgol ar ei hol gan ddilyn ei hangerdd am theatr. Ar ôl cwblhau ein cynllun prentisiaeth, dechreuodd weithio yma fel prentis technegol cyflogedig, nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.

Helpu ar gynyrchiadau drama yn yr ysgol uwchradd gychwynnodd diddordeb Bethany yn y celfyddydau, ond nid tan ei bod hi hanner ffordd trwy ei gradd mathemateg sylweddolodd Bethany ei bod hi’n methu ei gwir alwedigaeth mewn bywyd.

"Es i i’r brifysgol i astudio mathemateg ond penderfynais nad oedd o i mi. Roeddwn i angen gwneud rhywbeth ymarferol, felly edrychais i mewn i brentisiaethau."

Bethany Davies, Prentis Technegol

Roedd hi’n awyddus i weithio yn y diwydiant creadigol ond yn edrych am rywbeth mwy technegol hefyd. Roedd theatr yn cynnig y cyfuniad perffaith.

Nawr yw’r amser i gofrestru ar ein cynllun prentisiaeth. Darganfyddwch mwy a phrofwch y wefr o weithio mewn theatr byw.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston, The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.