Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn Cyflwyno Llais, 9 - 13 Hydref 2024
Rydyn ni ‘nôl! Ymunwch â ni yr hydref yma am fwy o gerddoriaeth, mwy o brofiadau a mwy o leisiau anhygoel.
Tanysgrifiwch i gael ein cylchlythyr i fod ymhlith y cyntaf i glywed pan fydd artistiaid yn cael eu cyhoeddi a thocynnau yn mynd ar werth.
Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim ac â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiad i ysgogi’r meddwl a phrofiadau chwareus i bawb.
Heb ei gyfyngu i genre neu ffurf gelf benodol, mae Llais yn dathlu artistiaid rhyngwladol yn ogystal â chreadigrwydd ein cynefin ein hunain, gan drawsffurfio Canolfan Mileniwm Cymru’n safle gŵyl unigryw.
Llais yw gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd wedi’i ysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu bob un ohonom – y llais. Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd. Mwy o wybodaeth yn gwyldinasgerddcaerdydd.cymru