Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Stori Owain Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Bob blwyddyn, mae ein hadeilad yn gartref i filoedd o weithwyr proffesiynol sy’n rhagori ar ac oddi ar y llwyfan, a gwyddom fod angen meithrin doniau ifanc er mwyn tanio dychymyg y genhedlaeth nesaf. Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rydyn ni’n gweithio gyda nifer o sefydliadau ledled y wlad i ddarparu hyfforddiant technegol, gan agor y drysau i unrhyw un sydd am wneud cais.

Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, rydyn ni’n taflu goleuni ar ein cynllun hyfforddi, gan siarad ag un o hyfforddeion y llynedd am sut wnaeth ei amser gyda ni gefnogi dechrau ei yrfa.

Mae ein Cynllun Prentisiaeth a Rennir yn cynnig hyd at ddeg prentisiaeth llawnamser blwyddyn o hyd mewn theatr dechnegol gefn llwyfan mewn lleoliadau celfyddydol ledled y wlad. Mae’n agored i unrhyw un 16 oed a throsodd, ac mae’n meithrin y don nesaf o dechnegwyr theatr, gan sicrhau dyfodol y sector.


"... WALES MILLENNIUM CENTRE HAS GIVEN ME ALL THE TRAINING WORKSHOPS AND EVERYTHING I WOULD NEED TO BE ABLE TO GO AND CREATE MY OWN CAREER FOR MYSELF."

OWAIN WATKINS, PRENTIS TECHNEGOL 2022/2023

Ymunodd Owain Watkins â’r cynllun prentisiaeth ym mis Awst 2022, gan rannu ei amser rhwng Canolfan Mileniwm Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru (WNO). Ers yn ifanc, roedd yn dyheu am weithio ar lwyfan proffesiynol, ar ôl rhoi cynnig arni yn yr ysgol uwchradd:

“Dechreuais i anfon ceisiadau i theatrau gwahanol, yn gofyn a oedd unrhyw gyfleoedd i wirfoddoli. Atebodd neb, heblaw am Ganolfan Mileniwm Cymru, a roddodd wybod i mi am y cynllun prentisiaeth. Roeddwn i’n 15 oed ar y pryd, felly unwaith nes i droi’n 17 oed, ymgeisiais i, a dyma fi.”


Aeth â’r brentisiaeth ag ef a’i gyd-garfan ar daith ledled Cymru o hyfforddiant ac achrediad ffurfiol, ac mae ei brofiadau ymarferol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wedi rhoi llawer o sgiliau iddo, gan gynnwys codi a chario, gweithio ar uchder ac asesu risg.



“Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n gwybod eithaf tipyn cyn i mi ddechrau’r brentisiaeth, ond pan ddechreuais i, sylweddolais i “na, sai’n gwybod dim!”... doeddwn i erioed wir wedi ystyried y llwyfannu, y brig nac unrhyw beth fel ‘na.”

Mae Owain yn canmol y cynllun prentisiaeth am ddatblygu ei wybodaeth dechnegol mewn lleoliad gwaith, ynghyd â gwybodaeth am agweddau technegol electronig a rheoliadau iechyd a diogelwch sydd wedi gwella ei gyfle i gael swydd:

“Nawr bod gen i gymwysterau profion PAT, dwi wedi gallu mynd allan a chael fy nghyflogi i fod yn brofwr PAT i gwmnïau gwahanol.”

Mae’n frwdfrydig dros bŵer trawsnewidiol y cynllun, a arweiniodd at swydd fel technegydd llwyfan dros dro yng Nghanolfan Mileniwm Cymru flwyddyn yn ddiweddarach. Aeth ar daith gyda thymhorau Hydref a Gwanwyn WNO a gweithiodd ar blot y llwyfan ar gyfer Disney’s Aladdin:

“Mae’r brentisiaeth yma yn union beth roeddwn i’n chwilio amdano. Mae wedi rhoi’r holl sgiliau a gwybodaeth roedd eu hangen arna i i mi, ac mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi rhoi’r holl weithdai hyfforddi a phopeth y byddai eu hangen arna i er mwyn gallu mynd a chreu fy ngyrfa fy hun... Byddwn i’n dweud os oes gennych chi ddiddordeb, ewch amdani.

Bydd yn rhoi’r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch ac oes nad ydych chi am aros ym myd y theatr, does dim rhaid i chi. Unwaith y bydd y cymwysterau gennych chi, byddwch chi’n gallu gweithio mewn llwyth o sectorau fel digwyddiadau, ffilm a theledu.”


Ar ôl cael 11,000+ awr â thâl ar y cyd o brofiad a hyfforddiant theatr dechnegol, mae pob Prentis Technegol yn graddio gyda thystysgrif Lefel 3 mewn Theatr Dechnegol, wedi’i hachredu gan Goleg Caerdydd a’r Fro. 

Bydd ceisiadau ar gyfer 2024/25 yn agor yr haf hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am ein cynllun prentisiaeth dechnegol ar gael yma