Mae Sophie Garrod, ein Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy’r cwrs dwys sy'n cael ei gynnig i'n staff. Mae hi wedi bod yn dysgu ers mis Medi...
Sut mae’r cwrs yn mynd?
Dwi’n mwynhau! Mae’n ddwys, ond yn ddefnyddiol iawn gan ein bod ni’n dysgu pethau ymarferol sydd eu hangen mewn sgyrsiau bob dydd. Mae ‘na gymysgedd da o bobl yn y dosbarth - o adrannau amrywiol yn y Ganolfan, yn cynnwys diogelwch, cysylltiadau cwsmeriaid, profiad cwsmer, marchnata a’r tîm rhaglennu.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf?
Dwi’n mwynhau’r ffaith fy mod i’n gwella bob wythnos. Rwy’n deall mwy o’r sgyrsiau sydd i’w clywed yn y swyddfa ac yn deall twîts Cymraeg sydd yn cael eu rhannu gan y Ganolfan a ffrindiau. Mae’n anhygoel i gredu faint dwi’n deall erbyn hyn gan ystyried nad oeddwn i’n deall fawr ddim o Gymraeg ychydig fisoedd yn ôl.
Pa bynciau ydych chi wedi astudio hyd yn hyn?
Llwyth! Amseroedd gwahanol, hoff bethau a chas bethau, gwyliau, diddordebau, amser, arian, bwyd, y tywydd.
Beth yw dy hoff eiriau Cymraeg hyd yn hyn?
Ysgrifennu. Cyfrifiadur. Sboncen.
Dwi’n hoffi sut maen nhw’n swnio.
Wyt ti’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn dy waith o ddydd i ddydd?
Dwi heb lwyddo yn fy ngwaith ysgrifenedig eto, ond dwi wedi bod yn defnyddio Cymraeg mewn sgyrsiau ac yn gymdeithasol. Rwy’n gyffrous i weld rhai perfformiadau cyfrwng Cymraeg yn y theatr eleni. Dwi wedi bod yn gwrando ar ychydig o gerddoriaeth cyfrwng Cymraeg a Radio Cymru ac mae yna sawl podledliad sydd yn gymorth i ddysgwyr Cymraeg sydd yn ddefnyddiol iawn. Roedd un ohonynt yn glonc gydag un o’n hoff berfformwyr sioe gerdd, Jade Davies, sydd yn siaradwr Cymraeg ac wedi serennu mewn sawl sioe wych yn cynnwys Les Mis, Sister Act a Phantom of the Opera. Mae’r cwrs heb os, yn agor drysau i mi.
Dyma’r ail dro i ni sgwrsio â Sophie ynglŷn â dysgu Cymraeg. Gallwch ddarllen y blog cyntaf yma. Cawn ni ddiweddariad arall gan Sophie yn hwyrach yn y flwyddyn ar ddiwedd y cwrs.
Mae’r cyrsiau rydym ni’n cynnig i’n gweithwyr yn cael eu darparu a’u dysgu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.