Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dros Nos yw ein digwyddiad cysgu dros nos blynyddol ar gyfer grwpiau ieuenctid a sefydliadau cymunedol sy’n cael ei gynnal yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Dros 24 awr, mae pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cael cyfle i weld un o’n cynyrchiadau gwreiddiol, cwrdd â’r tîm creadigol, cymryd rhan mewn gweithdai a gweithgareddau hwyl a chysgu dros nos yn ein hadeilad eiconig!

Os ydych chi’n rhedeg grŵp ieuenctid neu sefydliad cymunedol ac mae diddordeb gennych mewn dod, llenwch ffurflen yma neu anfonwch e-bost atom yn education@wmc.org.uk gyda’r teitl Dros Nos.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys bwyd am ddim ac mae ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.

*Byddai angen i arweinwyr grwpiau ddod i’r digwyddiad hefyd a bod yn gyfrifol am eu grŵp.

Bydd digwyddiad eleni yn cael ei gynnal o 11-12 Tachwedd 2023.