Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Hard Côr, sy’n brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn dod â cherddorion rhwng 18 a 25 oed at ei gilydd i ffurfio grŵp lleisiol unigryw.  

Mae cyfranogwyr yn dod ynghyd i archwilio amrywiaeth o arddulliau a thechnegau cerddorol, gan uno canu corawl â genres fel grime, hip hop a RnB a datblygu ystod o sgiliau gan gynnwys lleisio, ‘MCing’, rapio a bîtbocsio.  

Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant a chyfle i greu cerddoriaeth gydag ymarferwyr a cherddorion gorau’r wlad, gan arwain at ddigwyddiad arddangos talent i ddathlu byd cerddoriaeth Cymru sy’n gynyddol gyffrous ac arloesol. 

"It felt like another family and community full of diversity."

Aelod Hard Côr, 2022

Yr hwyluswyr sy’n gweithio ar Hard Côr eleni yw: 

  • Molara – canwr, cyfansoddwr caneuon ac ymarferydd creadigol 
  • Faith Nelson – canwr soul (canu) 
  • Tumi Williams – MC ac awdur geiriau (‘mcing’) 
  • Matthew Hann – bîtbocsiwr a hwylusydd y celfyddydau (bîtbocsio) 
  • Dosbarthiadau meistr gyda hwyluswyr talentog fel Dionne Bennett (canwr/cyfansoddwr).  
DYDDIADAU'R PROSIECT

Rydym ni’n chwilio am aelodau i allu ymrwymo'n llawn i'r dyddiadau canlynol:

Cyfnod 1 Gweithdai, Stiwdio Tŷ Cerdd a Radio Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

  • Dydd Mawrth 18 Gorffennaf, 6 — 8pm
  • Dydd Mawrth 25 Gorffennaf, 6 — 8pm
  • Dydd Mawrth 1 Awst, 6 — 8pm
  • Dydd Mawrth 8 Awst, 6 — 8pm

Cyfnod 2 Diwrnodau Preswyl, Stiwdio Tŷ Cerdd, Radio Platfform ac Ystafell Preseli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

  • Dydd Gwener 1 Medi, 10am — 5pm
  • Dydd Sadwrn 2 Medi, 10am — 5pm
  • Dydd Sul 3 Medi, 10am — 5pm

Cyfnod 3 Ymarferion, Radio Platfform a Gofod Dysgu Creadigol CMC

  • Dydd Mawrth 5 Medi, 6 — 8pm
  • Dydd Mawrth 12 Medi, 6 — 8pm
  • Dydd Mawrth 19 Medi, 6 — 8pm
  • Dydd Mawrth 26 Medi, 6 — 8pm
  • Dydd Mawrth 3 Hydref, 6 — 8pm
  • Dydd Mawrth 10 Hydref, 6 — 8pm

PERFFORMIAD YN LLAIS, CANOLFAN MILENIWM CYMRU, DYDDIAD I'W GADARNHAU RHWNG 11 — 15 HYDREF

 

Ceiswch nawr

Pan fyddwch chi’n cwblhau’r ffurflen yma, caiff eich data eu casglu a’u storio’n ddiogel gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Caiff eu defnyddio i gyfathrebu â chi am y prosiect Hard Côr, ac mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cyfathrebu â chi am brosiectau tebyg eraill a all fod o ddiddordeb i chi, yn ogystal â newyddion a diweddariadau. Os hoffech chi ddatdanysgrifio o’r rhain unrhyw bryd, e-bostiwch nyaw@nyaw.org.uk. Darllenwch fwy yma: Polisi Preifatrwydd — Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ccic.org.uk)

I gael rhagor o wybodaeth e-bost nyaw@nyaw.org.uk neu education@wmc.org.uk.

Prosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw Hard Côr.