Arglwydd Rowe-Beddoe DL - Llywydd Oes
Yn drist iawn, bu farw yr Arglwydd Rowe-Beddoe ym mis Tachwedd 2023. Darllenwch fwy am arloeswr sefydlol Canolfan Mileniwm Cymru yn natganiad ein rheolwr gyfarwyddwr Mat Milsom.
Yn Gadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru o fis Mawrth 2001 hyd Mai 2010, mae'r Arglwydd Rowe-Beddoe yn ddyn busnes rhyngwladol sydd â phrofiad helaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus a'r celfyddydau perfformio.
Bu’n sgolor cerddoriaeth yn Ysgol y Gadeirlan Llandaf cyn dilyn ei yrfa addysgiadol yn Ysgol Stowe ac yng Ngholeg Sant Ioan Caergrawnt a Phrifysgol Harvard.
Cychwynnodd ei gariad tuag at y theatr yn ei blentyndod (roedd ei fam yn gantores opera broffesiynol) a pharhaodd drwy ei ddyddiau coleg, lle cafodd ei gydnabod yn actor o fri (ar sail amaturaidd a phroffesiynol).
Mae’r Arglwydd Rowe-Beddoe yn Gadeirydd ar Fwrdd Cynrychiadol yr Eglwys yng Nghymru, ac yn Ddirprwy Gadeirydd Awdurdod Ystadegau y DU. Mae'n Noddwr Ymddiriedolaeth y Tywysog - Bro - ac yn Llywydd (ac yn gyn Gadeirydd) Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae ei benodiadau bwrdd anweithredol presennol yn cynnwys EHC International Cyf (ers 2001), a Toye & Co. plc (ers 2003).
Bu’n Gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru (1993-2001) a Chadeirydd Bwrdd Datblygu Cymru Wledig (1994-1998). Cyn hynny, roedd gyda Thomas De La Rue o 1961 ac roedd yn Brif Weithredwr rhwng 1971 a 1976; gyda Revlon Inc fel Llywydd, America Ladin, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica (1976-1981); ac yna'n Llywydd Morgan Stanley-GFTA Ltd (1983-1991).
Mae Arglwydd Rowe-Beddoe yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Morgannwg; yn Ddoethur Anrhydeddus Prifysgol Cymru a Phrifysgol Morgannwg ac yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd ac Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Mae'n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Cafodd ei urddo yn farchog am ei wasanaeth i ddiwydiant a datblygu economaidd yng Nghymru yn 2000. Yn 2006, cafodd ei ddyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi.
Is Lywyddion Oes
Geraint Davies CBE
David Joyce
Dafydd Bowen Lewis