Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dyma'n uwch dîm rheoli; y bobl y tu ôl i'r penderfyniadau.

Mathew Milsom – Prif Weithredwr

Mathew Milsom
Mathew Milsom

Brodor o Gaerdydd yw Mathew Milsom a ymunodd â Chanolfan Mileniwm Cymru yn 2006 fel ymgynghorydd ar ôl cyfnod o redeg cwmni llwyddiannus ei hun yn ymgynghori busnesau.

Fel Cyfarwyddwr Cyllid, sicrhaodd sefydlogrwydd ariannol y busnes, gan ei wneud yn un o brosiectau'r mileniwm mwyaf llwyddiannus a ariannwyd gan y Loteri. Daeth Mathew yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2013 cyn dod yn Brif Weithredwr yn 2024. 

Mae Mathew wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl Caerdydd a Chymru gyfan yn cael y budd cyhoeddus mwyaf posib o'r Ganolfan.

Mae hefyd yn angerddol dros ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy'r celfyddydau, yn arbennig y rheiny sy'n dod o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae hefyd yn credu y dylai Canolfan Mileniwm Cymru arwain y ffordd. O ganlyniad i hynny, mae'r Ganolfan bellach yn rhannu arferion gorau yn y celfyddydau, yn ogystal â sectorau busnes eraill, gan gynnwys gweithgynhyrchu, yn arbennig yn y maes cynaliadwyedd.

Mae Mathew yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion.

Graeme Farrow – Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys

Graeme Farrow
Graeme Farrow

Ganed a magwyd Graeme yn Sunderland ac enillodd radd mewn Ffrangeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Leeds. Symudodd i Ogledd Iwerddon i astudio ei MBA ym Mhrifysgol Ulster, ac ers hynny mae wedi dilyn gyrfa lwyddiannus iawn yn y celfyddydau yn Belfast ac wedyn yn Londonderry.

Ym 1999 ymunodd â Thîm Gŵyl Belfast ac yn 2006 daeth yn gyfarwyddwr arni, gan ddatblygu'r ŵyl yn un o'r prif wyliau celfyddydol ym Mhrydain ac Iwerddon yn 2012, yn ystod cyfnod oedd yn arwain at ben-blwydd arbennig yr ŵyl yn 50.

Cyn ymuno â chwmni'r Ddinas Diwylliant, cafodd ei ddyrchafu'n Bennaeth Diwylliant a'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Queen's, Belfast ac roedd yn gyfrifol, nid yn unig am yr ŵyl, ond hefyd am Theatr Ffilm Queen's ac Oriel Naughton.

Yn ddiweddar, Graeme oedd yn bennaf gyfrifol am gynllunio a chyflwyno rhaglen £14.1m ar gyfer Dinas Diwylliant gyntaf y DU, Derry-Londonderry sydd wedi cael ei gydnabod fel llwyddiant ysgubol gan bobl leol, beirniaid a'r cyfryngau.

Gellir priodoli llawer o'r llwyddiant i fewnbwn Graeme, nid yn unig ei greadigrwydd ond ei uchelgais hefyd, a'i galluogodd i gyflwyno Gwobr glodfawr Turner y tu allan i Loegr am y tro cyntaf yn y 29 mlynedd ers ei sefydlu.

Graeme oedd enillydd cyntaf gwobr Unigolyn y Flwyddyn yng Ngwobrau Celfyddydau Gogledd Iwerddon ac enwyd yn un o gyflawnwyr amlycaf Gogledd Iwerddon i'r rhai o dan 40 oed.