Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Crëwyd adeilad Canolfan Mileniwm Cymru fel llwyfan i Gymru, i adlewyrchu ysbryd y genedl, a rhoi cartref i'r celfyddydau perfformio.

Mae'r dyluniad yn adlewyrchu tirwedd ddiwydiannol a naturiol Cymru, gan ddwyn ysbrydoliaeth o'r mynyddoedd, y môr a'r diwydiant haearn yn Ne Cymru a phyllau llechi'r gogledd.

Mae hefyd yn cyfeirio at hanes arforol Bae Teigr, a chawn weld hynny drwy do copr yr adeilad sy'n gwneud i'r adeilad edrych fel llong enfawr ac yn sgil hynny mae'n cael ei adnabod yn lleol fel yr armadilo. 

"I wanted to create something unmistakeably Welsh and internationally recognisable and outstanding."

Jonathan Adams, pensaer 

Ar ôl blynyddoedd o baratoi, fe'i adeiladwyd ymhen dwy flynedd a hanner yn unig ac fe'i agorwyd gan y Frenhines yn 2004 gydag allwedd ddur addurnedig a deithiodd ar draws pum cyfandir ar siwrne o ewyllys da er mwyn datgloi'r drws blaen.

Wedi'i cyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru, Loteri Genedlaethol, Comisiwn Mileniwm a Chyngor Celfyddydau Cymru, roedd yr adeilad yn costio £106m i'w creu gan ddefnyddio deunyddiau a fyddai'n goroesi treigl amser yn ogystal â thywydd Cymru.

Ar gyfer cragen allanol yr adeilad, gorchuddiwyd 4,500 tunnell o ddur adeileddol gyda 2,000 tunnell o lechi Cymreig wedi'u hailgylchu a'u hadfer o domennydd rwbel. 

Cyfansoddwyd yr arysgrif trawiadol ar flaen yr adeilad: Ffwrnais Awen gan Gynfardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis. 

Mae’r llythrennu Celtaidd nid yn unig yn cynrychioli’r traddodiad hynafol o gerfio carreg ond hefyd y rhagoriaeth, egwyddorion a gonestrwydd artistig sydd i’w gweld y tu fewn i’r adeilad a’u hadlewyrchu i’r byd drwy’r gwydr ym mhob llythyren.

"No West End theatre boasts what we have here. There's nowhere in London that comes close to this facility."

Andrew Lloyd-Webber, cyfansoddwr

Wrth gamu tu mewn i’r adeilad mae’r cysylltiad rhwng y dirwedd naturiol a diwydiannol yn parhau gyda neges ecogyfeillgar a chynaliadwy drwyddi draw.

Defnyddiwyd pren caled o goetiroedd cynaliadwy Cymreig y tu mewn i’r adeilad gyda phileri tal du â phatrymau ffosil yn cynrychioli cyrion cyfareddol y fforest, lle mae hud a lledrith yn cwrdd â realiti.

I bob cyfeiriad, gwelwch dystiolaeth o saernïo celfydd a mynegiant artistig Cymreig.

Cymerwch gipolwg ar ein gwagleoedd y tu mewn i'r adeilad