Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol.

Dewch i adnabod BBC NOW

Hijinx

Hijinx yw un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop, sy'creu perfformiadau rhagorol gydag artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ar lwyfan ac ar sgrin, i Gymru ac ir byd. 

Dysgwch fwy am Hijinx

Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol dros ddatblygu llenyddiaeth. Eu gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.

Dysgwch fwy am Lenyddiaeth Cymru

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu dawns gwych gyda phob math o bobl, ac ar gyfer pob math o bobl o wahanol lefydd.

Dysgwch fwy am Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Two Rhythms

Mae Two Rhythms, a elwid gynt yn Touch Trust, yn elusen celfyddydau hygyrch sy’n darparu rhaglenni addysgol a therapiwtig er lles pobl sydd ag anableddau corfforol a dysgu dwys.

Dysgwch fwy ar eu gwefan

Tŷ Cerdd

Mae gan Tŷ Cerdd gylch gwaith cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n rhan arwyddocaol o hyrwyddo a dathlu datblygiad cerddoriaeth Gymreig.

Dysgwch fwy am waith Tŷ Cerdd

Urdd Gobaith Cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru yn rhoi cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan eu galluogi nhw i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.

Ewch i wefan yr Urdd

Opera Cenedlaethol Cymru

Cenhadaeth Opera Cenedlaethol Cymru yw dod â phŵer, drama ac emosiwn amrwd opera i gynulleidfa mor eang â phosibl mewn perfformiadau wedi eu nodweddu gan ymchwil digyfaddawd am ansawdd artistig.

Dysgwch fwy am WNO