Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni’n sefydliad hwyliog a creadigol ac yn cynnig lle braf i weithio ynddo.

Felly, prynai’ch bod chi’n adeiladu setiau ar gyfer ein cynyrchiadau, creu cynnwys ar gyfer ein platfformau digidol amrywiol, datrys materion cyfrifiadurol, ymwneud â chwsmeriaid  yn ein swyddfa docynnau neu’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, mae digon o gyfleoedd ar gyfer adeiladu gyrfa gyffrous a boddhaus yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am unrhyw un o'r rolau a hysbysebir, cysylltwch â ni yn recruitment@wmc.org.uk

SWYDDI GWAG

Cyf Swydd Oriau Swydd Wag Dyddiad Cau
WMCW182235 35 Awr yr Wythnos

Cynorthwy-ydd Gweithredol i’r Prif Swyddog Masnachol

Gwnewch gais yma

25 Medi 2024

 

CYFLE CYFARTAL

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydyn ni’n croesawu ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

Adroddiad ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau - 2023

HYDERUS O RAN ANABLEDD

Rydyn ni wedi ymrwymo i broses recriwtio gynhwysol a hygyrch. Darganfyddwch fwy - www.gov.uk/disability-confident

CEISIADAU CYMRAEG

Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn Gymraeg, bydd eich cais yn cael ei drin yr un peth â chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.

DIOGELU DATA

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018, rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd.

Os ydych chi’n aflwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei ddinistrio ar ôl chwe mis, ond os fyddwch chi’n llwyddiannus bydd y wybodaeth berthnasol yn cael ei gymryd o’ch ffurflen gais a’i defnyddio fel rhan o’ch cofnod personol.

Ceir fwy o wybodaeth yn ein polisi preifatrwydd.

Buddsoddwyr Mewn Pobl

Yn 2016, llwyddom i ennill achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl, sy'n dangos ein bod yn gofalu am ein gweithwyr a'n bod ni'n eu harwain, eu rheoli a'u datblygu'n effeithiol.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglyn â recriwtio, cysylltwch â’n tîm Adnoddau Dynol ar recruitment@wmc.org.uk