Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydym yn creu pob math o waith, ac am i bob math o bobl weithio gyda ni. Byddem ni wrth ein boddau petaech yn ystyried yr ystod eang o yrfaoedd, lleoliadau gwaith, interniaethau a phrentisiaethau gwych sydd ar gael gyda ni.

Mae nifer o lwybrau’n arwain at weithio i Ganolfan Mileniwm Cymru. Rydyn yn cynnig hyfforddiant cyn ymgeisio ar gyfer grwpiau sydd wedi’u tan gynrychioli, yn hysbysebu ein swyddi mewn lleoedd anarferol ac yn defnyddio ffurflenni cais sy’n cuddio’ch enw a’ch cyfeiriad.

Gwelwch ganllawiau ar gyfer ysgrifennu eich ffurflen gais yma.

Cymerwch olwg ar ein cyfleoedd cyfredol

Gwiriwch yn ôl yn fuan.

 

CYFLE CYFARTAL

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydyn ni’n croesawu ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

Adroddiad ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau - 2022

Hyderus o ran Anabledd

Rydyn ni wedi ymrwymo i broses recriwtio gynhwysol a hygyrch. Darganfyddwch fwy - www.gov.uk/disability-confident

Gwneud Cais yn Gymraeg

Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn Gymraeg, bydd eich cais yn cael ei drin yr un peth â chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.

Diogelu Data

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018, rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd.

Os ydych chi’n aflwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei ddinistrio ar ôl chwe mis, ond os fyddwch chi’n llwyddiannus bydd y wybodaeth berthnasol yn cael ei gymryd o’ch ffurflen gais a’i defnyddio fel rhan o’ch cofnod personol.

Ceir fwy o wybodaeth yn ein polisi preifatrwydd.

Buddsoddwyr Mewn Pobl

Yn 2016, llwyddom i ennill achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl, sy'n dangos ein bod yn gofalu am ein gweithwyr a'n bod ni'n eu harwain, eu rheoli a'u datblygu'n effeithiol.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglyn â recriwtio, cysylltwch â’n tîm Adnoddau Dynol ar cefnogaethpd@wmc.org.uk