Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dylai Canolfan Mileniwm Cymru fod yn gartref creadigol i bawb – yn amgylchedd creadigol cyfartal, teg a chynhwysol lle gall pawb berthyn a bod yn nhw’u hunain.  

Rydyn ni’n gweithio gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau i adrodd eu straeon yn y ffyrdd sydd orau ganddyn nhw, gan helpu lleisiau a safbwyntiau amrywiol i gael eu dathlu a’u clywed.  

Mae agor ein hadeilad fel adnodd a gofod creu i bobl gael rhannu eu diwylliannau, eu sgiliau a’u profiadau yn rhan bwysig o hyn, ac mae’n dod â’r adeilad cyhoeddus yma’n fyw gyda phrofiadau, digwyddiadau ac arddangosfeydd.  

Byddwn ni bob amser yn gweithio’n galed i gael gwared â rhwystrau, gan alluogi pawb i gymryd rhan a rhannu’r hud.  

Mae’n rhaid i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant hefyd fynd y tu hwnt i’n gofodau a’n rhaglenni cyhoeddus, a threiddio i bob agwedd ar ein sefydliad, gan gynnwys ym maes arwain, rheoli, llywodraethu a phenderfynu. Yr unig ffordd y byddwn ni’n creu cynhwysiant parhaus yw drwy roi sylw cyfatebol i strategaeth, systemau a phrosesau ac i’n diwylliant, ein gwerthoedd a’n hymddygiad. 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn myfyrio ar ein gwerthoedd sylfaenol, yn fewnol gyda’n staff a hefyd yn allanol gyda’n partneriaid, wrth geisio newid cadarnhaol. Mae hyn wedi’n galluogi ni i nodi rhwystrau a mynd i’r afael â chynhwysiant ymhellach. Rydyn ni’n parhau i groesawu cefnogaeth ac adborth ein cynulleidfaoedd a’n cydweithwyr i’n dwyn ni i gyfrif i’n hymrwymiadau. 

FELLY, BETH SYDD WEDI DIGWYDD YN Y DDWY FLYNEDD DDIWETHAF? 

Ers cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu, rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan feithrin arferion recriwtio teg a dathlu diwylliant o gynhwysiant yn ein gweithlu. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni a gweithgareddau wedi’u cyd-gynhyrchu mewn ymgynghoriad â chynulleidfaoedd ifanc amrywiol, gan feithrin ymgysylltiad a chynrychiolaeth.  

Rydyn ni wedi ymgysylltu â’n llysgenhadon cymunedol ledled Cymru, gan ddysgu o’u safbwyntiau a’u profiadau unigryw i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ein cynllun tocynnau cymunedol. Mae hyn wedi rhoi cyfleoedd i dros 6,000 o bobl fwynhau perfformiadau na fydden nhw wedi gallu gwneud hynny fel arall am ystod o resymau. Fe sefydlon ni rwydwaith staff ledled y sefydliad (sef Newid) i gyflymu newid diwylliannol. Mae Newid wedi bod yn canolbwyntio ar ymyriadau sy’n mynd i’r afael â meysydd penodol o dangynrychiolaeth neu ddiffyg wybodaeth a phrofiad ymhlith ein pobl a’n ffyrdd o weithio. Mae hyn yn cynnwys grŵp ffocws y Gymraeg, sy’n parhau i edrych ar ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig i symud tu hwnt i’r safonau iaith ac i fod yn fwy cynhwysol, ac ymrwymiad i barhau i ddysgu drwy hwyluso deialogau profiad byw, sydd wedi bod yn hanfodol wrth nodi a gyrru newid cadarnhaol. 

Rydyn ni hefyd wedi creu mwy o gyfleoedd i’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio gael eu llywio gan wahanol safbwyntiau allanol drwy ein Cymdeithion Creadigol a’n Criw Ieuenctid.  

Fe wnaethon ni le i eraill drwy roi cyd-gynhyrchu wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud a meithrin cysylltiadau gyda phartneriaid, er enghraifft Boss and Brew Academy a Tiger Bay Security, sydd bellach yn rhan enfawr o Ganolfan Mileniwm Cymru. Maen nhw’n canolbwyntio ar daclo diweithdra a chefnogi pobl ifanc o gefndiroedd mwyafrif byd-eang. 

Drwy weithio gyda phobl ifanc, cymunedau ac artistiaid a datblygu gofodau newydd, rydyn ni wedi creu mwy o gyfleoedd i bobl ddawnus o gefndiroedd amrywiol ymgysylltu a chreu gyda ni. Drwy brosesau cyd-ddylunio a chyllidebu cyfranogol, rydyn ni wedi annog cynhwysiant ar draws yr adeilad ac wedi buddsoddi mewn lleisiau a syniadau newydd. 

EIN CAMAU GWEITHREDU YMWYBODOL DROS Y DDWY FLYNEDD NESAF:  

Byddwn ni’n mynnu sylw gan ein huwch arweinwyr i sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i’n strategaeth a’n gwaith cynllunio. Fel gwnaethon ni gyda Tiger Bay Security, byddwn ni’n parhau â’n sgyrsiau i rannu profiadau byw ar draws y sefydliad ac yn parhau i ddatblygu partneriaethau sy’n cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol.  

Byddwn ni’n sicrhau nad yw ein hamgylchedd corfforol a’n darpariaeth gwasanaeth yn peri rhwystrau drwy adolygu ein hymagwedd a’n gwaith yn barhaus, er mwyn deall gofynion ein pobl a’n hymwelwyr yn well.   

Byddwn ni’n annog dysgu ac yn grymuso ein gilydd i herio ymddygiad, i fod yn chwilfrydig, ac i archwilio atebion i greu diwylliant o newid cadarnhaol sy’n cydnabod bod y gwaith yma’n gyfrifoldeb ar bawb.  

Byddwn ni’n cynnig profiad dwyieithog cynhwysol o ansawdd uchel i’n holl gwsmeriaid, ymwelwyr a staff, sy’n parchu dewis iaith, ac yn cynnal Safonau’r Gymraeg.    

Byddwn ni’n gwneud lle ar gyfer gwahanol leisiau yn ein sefydliad a’n gofodau, gan gynyddu mynediad, buddsoddiad a chyfleoedd i bawb, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi’u tangynrychioli.  

Byddwn ni’n cysoni systemau a strwythurau ar draws y sefydliad i’n helpu ni i gasglu data a gwybodaeth a all dynnu sylw at fylchau yn ein gwaith, dangos cynnydd a’n dwyn i gyfrif.   

Rydyn ni am fynd ati i yrru newid cadarnhaol, bod yn ymwybodol gynhwysol, a chydnabod ein braint. Os oes gennych unrhyw adborth neu os oes angen i chi godi mater – cadarnhaol, adeiladol neu gŵyn – cliciwch yma i weld sut mae cysylltu â ni.