Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

10 o'r Caneuon Gorau o Motown the Musical

Roedd Motown yn gyfnod chwedlonol, ac mae sleisen ohoni’n dod i Gaerdydd y mis nesaf. Dyma rai o’n hoff ganeuon o Motown the Musical.

1. Dancing In The Street

Wedi ei chanu’n wreiddiol gan Martha Reeves & The Vandellas, mae’r gân Motown yma wedi cael ei pherfformio gan The Kinks, Everly Brothers, a Grateful Dead, ac roedd yn llwyddiant mawr fel deuawd i Mick Jagger a David Bowie.

2. Stop! In the Name of Love

Karis Anderson and Cast as Diana_Ross and The Supremes

Rhyddhawyd Stop! In the Name Love gan The Supremes yn 1965 gyda Dianna Ross fel y prif leisydd. Lluniodd y merched eu coreograffi eiconig – un llaw ar y glun a'r llall wedi’i hestyn mewn ystum ‘stop’ – ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf ar deledu byw.

3. You've Really Got a Hold on Me

Mae’r record hwn gan Smokey Robinson & The Miracles, sydd wedi gwerthu miliwn o gopïau, wedi ei berfformio gan gerddorion lu, gan gynnwys The Beatles ar eu hail albwm.

4. My Girl

The Temptations

Ysgrifennwyd My Girl gan Smokey Robinson, a daeth yn ddiweddarach yn sengl cyntaf y The Temptations i gyrraedd brig y siartiau – sef yr unig un hyd yma – yn ogystal â bod eu cân fwyaf adnabyddus. Dewch i glywed y gân yn fyw ar y llwyfan.

5. What's Going On

Y gân hon, What’s Going On gan Marvin Gaye, sy’n cloi Act Un. Dyma gân rymus o wleidyddol, eiconig a chlasurol a genir o safbwynt milwr yn dychwelyd o Fietnam, dim ond i ganfod casineb, dioddefaint, ac anghyfiawnder.

6. I Heard It Through the Grapevine

Ar ôl treulio saith wythnos ar frig siart y Billboard Pop Singles, daeth I Heard It Through the Grapevine yn sengl mwyaf y label recordiau Tamla Motown, sef y brand cyntaf a ddefnyddiwyd y tu fas i’r Unol Daleithiau.

7. I Want You Back

The Jackson Five

Y clasur o gân hon gan y Jackson 5 oedd y llwyddiant mawr cyntaf ar gyfer y band a’r label recordiau fel ei gilydd ar 31 Ionawr 1970. Dyma oedd rhif 121 ar restr Rolling Stone o’r 500 o Ganeuon Gorau Erioed.

8. Reach Out and Touch (Somebody's Hand)

Sengl cyntaf y gantores fawr ei bri Diana Ross oedd Reach Out and Touch. Yn y sioe gerdd hon, cewch ddarganfod sut y bu i Diana Ross esgyn i frig enwogrwydd gyda’i gyrfa solo wedi ei chyfnod gyda’r Supremes.

9. Signed, Sealed, Delivered (I'm Yours)

Daniel Haswell as Stevie Wonder

Treuliodd y tiwn Motown yma gan Stevie Wonder chwe wythnos yn siart R&B yr UDA, a dyma oedd y sengl cyntaf iddo ei gynhyrchu ar ei ben ei hun.

10. Ain't No Mountain High Enough

Karis Anderson as Diana Ross

Bydd y gân egnïol hon ar ddiwedd y sioe yn tynnu gwên lydan o’ch wyneb. Fe’i canwyd yn wreiddiol gan Marvin Gaye a Tammi Terrell yn 1967, ac roedd yn llwyddiant mawr i Diana Ross yn 1970.

Bydd Motown the Musical yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 26 March - 6 Ebrill 2019.