Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

5 munud gyda...Lucy Skilbeck

Rhwng ymarferion treulion ni rhai munudau yng nghwmni Lucy Skillbeck, 
yr awdur a chyfarwyddwr sy'n gyfrifol am Bullish a sylfaenydd Milk Presents, am sgwrs fach.

Beth oedd dy ysbrydoliaeth i sgwennu BULLISH?

Roedden i’n gobeithio deall rhywbeth oedd yn digwydd ond doedd gen i ddim y geiriau i esbonio’r 
peth, yn debyg i fod ar goll mewn drysfa.

Pan des i o hyd i’r Minotor doeddwn i ddim yn gallu mynegi beth oedd wedi hoelio fy sylw ond 
roedd rhywbeth amdano oedd wedi taro tant gyda mi. Roedd yna deimlad da rhyngddom ni wrth gyfarfod.

Dwy flynedd a hanner yn hwyrach ac mae gen i ddealltwriaeth well o fy hun fel person traws anneuaidd
 ac mae cael cymeriad sy’n rhannol un peth ac ychydig bach o rywbeth arall yn teimlo fel ffordd grêt o 
ddod i’r afael â’r mater yma.

Pam defnyddioch chi mytholeg Roegaidd i ddod i'r afael â hunaniaeth a rhywedd
traws wrywaidd?

"Greek mythology is rich in queerness"

Lucy Skilbeck

Mae yna gyfoeth o elfennau cwiar o fewn mytholeg Roegaidd, felly roedd yn ymddangos fel y lle amlwg i ymchwilio ein sioe nesaf ar ôl JOAN (chwaraewyd rhan Joan of Arc gan Frenin Drag, Lucy Jane Parkinson).

Ydy archwilio hunaniaeth rhyweddol yn rhywbeth sy'n aml yn gysylltiedig gyda'r minotor?

Na, dim hyd y gwn i. I ni mae’r minotor a’i ddrysfa yn ein helpu ni i gyflwyno syniadau am 
anesmwythder ynghylch rhywedd a thrawsnewidiad rhywedd mewn ffordd chwaraegar, yn ogystal â 
dadwneud syniadau am wrywdod a beth mae’n golygu i ddod i'r afael â gwrywdod ym mhob ystyr.

Beth oedd y broses greadigol i ddatblygu y gwaith yma?

Rydyn ni wastad yn gwneud sioe o leiaf tair gwaith. Fe gyflwynon ni gwaith ar waith dwy flynedd yn 
ôl yn Derby, yn fe rwygon ni’r sioe yn ddarnau a gwneud sioe newydd am ei agoriad llynedd 
yn Llundain.

Nawr wrth i'r dyddiad mynd ar daith nesáu rydyn ni wedi bod wrthi’n brysur yn torri a gludo, a dod â phopeth yn ôl at ei gilydd fel rhyw gollage er mwyn creu rhywbeth newydd.

Sut daeth yr ensemble at ei gilydd? 

Roedd e’n hollbwysig ein bod ni’n neud y sioe yma gyda phobl draws, anneuaidd a rhyweddol cwiar 
eraill.

Felly, fe gynhalion ni broses castio agored, er mwyn cwrdd â pherfformwyr a dod ag ensemble ardderchog at ei gilydd.

Roedden i'n barod wedi gweithio gyda Lucy Parkinson ar JOAN a roedden i'n gwybod y byddan nhw'n berffaith am hwn, ynghyd ag ensemble ffantastig o gydweithredwyr.

Beth sydd gan Bullish i ddweud ynglŷn â hunaniaeth rhywedd? 

Sai’n credu bod hi’n gyfrifoldeb arna' i  ddweud wrth gynulleidfaoedd ynglŷn â hunaniaeth rhywedd, 
fy swydd i yw dweud stori, a dyna beth mae Bullish yn gwneud.

"I want celebrate trans and gender non-conforming experiences within a myth that has been told for centuries."

Beth ydych chi'n gobeithio bydd cynulleidfaoedd yn teimlo wrth wylio Bullish? 

Bydd cynulleidfaoedd yn ymateb yn wahanol iawn i'n gwaith ni ac mae hynny’n gwneud fi’n hapus.   

Mae’n cliché ond mae pob cynulleidfa’n wahanol. Dyna’r pleser o deithio gyda’r gwaith yma i gymaint o lefydd gwahanol, ac edrychaf ymlaen at ddarganfod sut mae pobl wahanol yn ymateb iddo.