Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Cymru'n symud i Lefel Rhybudd 2 am 6am ar 26 Rhagfyr 2022.
Bydd hyn yn golygu bod rhaid cadw pellter cymdeithasol o 2m a therfyn uchaf o 30 ar gyfer digwyddiadau dan do. Mae'r cyfyngiadau newydd hyn wedi’i gwneud yn amhosibl i ni agor y theatr mewn ffordd sy'n darparu profiad da i gynulleidfaoedd ac sy'n ymarferol yn economaidd.
Mewn ymateb i hyn, ac i ddiogelu ein cynulleidfaoedd, ein staff, a chast a chriw ein cynyrchiadau, mae'n ddrwg gennym ni fod pob perfformiad o’r sioeau a drefnwyd wedi'u canslo o 26 Rhagfyr 2021 tan o leiaf 15 Ionawr 2022. Bydd ein hadeilad yn cau’n gyfan gwbl o 26 Rhagfyr ymlaen.
Mae’r perfformiadau o Beauty and the Beast ar 23 a 24 Rhagfyr hefyd wedi'u canslo oherwydd absenoldebau a orfodwyd gan Covid yn y cast a'r criw.
Os ydych wedi archebu tocynnau i weld sioe yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr archebydd wreiddiol yn derbyn ad-daliad yn awtomatig.
Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth ar yr adeg heriol hon. Dymunwn Nadolig diogel a hapus i chi.