Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Diwrnod Amgylchedd y Byd

I ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd, rydyn ni wedi penderfynu rhoi'r awenau i'n Tîm Gweithrediadau er mwyn cael diweddariad ar faterion cynaliadwyedd yma yn y Ganolfan.

Rydyn ni'n fwy na dim ond adeilad eiconig; mae cynaliadwyedd wedi bod wrth galon ei ddyluniad erioed, a bydd gwelliant parhaus yn sicrhau canolfan gelfyddydau diwylliannol gynaliadwy y gall pobl Cymru fod yn wirioneddol falch ohoni.

Mae gofyn i'r Tîm Gweithrediadau ddarparu gwasanaeth cost-effeithiol o flwyddyn i flwyddyn, a hyd yma maen nhw wedi disodli 80% o'r goleuadau tŷ a llwyfan gyda goleuadau LED sy'n effeithlon o ran ynni, sydd wedi arwain at arbediad o 86% o'r ynni a ddefnyddir ar gyfer goleuo blaen y tŷ.

"Any savings that we make on operating the building free up funds that can be used to enable us to meet our charitable activities."

David Bonney

Yn fwy diweddar, mae'r system sy'n rheoli sut caiff yr adeilad ei wresogi a'i oeri wedi cael ei disodli, sy'n caniatáu i'r tîm gweithrediadau reoli'n well faint o drydan, nwy a dŵr a gaiff ei ddefnyddio, ac roedden ni eisoes yn gweld gostyngiad o 7% yn ein defnydd o nwy cyn y cyfyngiadau symud.

Rydyn ni hefyd yn prynu ein holl drydan a nwy mewn sypiau mawr, sy'n arwain at gostau ynni sydd fel arfer 10% yn is na'r rhan fwyaf o adeiladau lleol, a bob mis caiff yr holl filiau eu gwirio er mwyn sicrhau nad ydyn ni'n talu gormod am drydan, nwy na dŵr.

Gas

Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, ac wrth gynnal 'adeilad sy'n barod i'w ddefnyddio', rydyn ni wedi cyflawni gostyngiad o 66% yn y defnydd o drydan, 87% yn y defnydd o nwy, ac 82% yn y defnydd o ddŵr.

Mae ein Tystysgrif Ynni i'w Harddangos yn gwella bob blwyddyn, ac yn ddiweddar fe gawson ni'n hachredu gyda gradd B (caiff y tystysgrifau eu graddio o A i E, gydag A yn nodi'r gorau), sy'n newyddion gwych.

Mae'r prosiectau cynaliadwy hirdymor yn cynnwys defnyddio celloedd solar a allai ddarparu ynni i ran o'r adeilad, ac rydyn ni hefyd yn edrych ar gynaeafu dŵr glaw.

Google map showing Viridor's proximity to our building

Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd a'r Ymddiriedolaeth Garbon ar brosiect 'Caerdydd fwy Gwyrdd', lle bydd gwres dros ben o waith trin gwastraff lleol Viridor yn cael ei ddefnyddio i wresogi ein hadeilad – un o'r busnesau lleol cyntaf i arwain y ffordd – a helpu i wneud Caerdydd yn ddinas fwy gwyrdd.

David Bonney

Helpwch ni i barhau â'n gwaith cymunedol a chreadigol

Mae sawl ffordd i chi ein cefnogi