Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Fae Caerdydd 27 Mai – 1 Mehefin.

Bydd ein Theatr Donald Gordon ysblennydd yn darparu llwyfan i’r llu o gystadlaethau, felly os yw eich plantos yn cymryd rhan, cofiwch brynu bandiau braich a mynnu sedd i wylio’r perfformiadau’n digwydd ar un o lwyfannau theatr mwyaf Ewrop.

Mi fydd cystadlaethau canu, adrodd, actio, cerddoriaeth, dawns a llawer mwy yn coroni dwy rownd o gystadlaethau cylch a bro, yn ogystal â’r rhagbrofion cynnar yn ystod yr ŵyl. Rydyn ni’n griw brwd o Eisteddfodwyr yma!

Bu rhai o wynebau enwocaf Cymru, fel yr actor Hollywood, Matthew Rhys yn cystadlu yn yr Eisteddfod pan yn blentyn, ac yn sicr mae’r ŵyl yn blatfform ar gyfer meithrin doniau’r dyfodol.

Os nag oes cystadleuwyr yn eich tŷ chi, pam na ddewch chi am dro beth bynnag…

Dewch i fwynhau’r wledd o berfformiadau yn y pafiliwn (Theatr Donald Gordon) neu ewch am dro o amgylch y Maes.

Fel Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, mae mynediad i’r Maes am ddim, ac yn cynnig digonedd o bethau i ddiddanu pob aelod o’r teulu, o sesiynau chwaraeon, cerddoriaeth fyw gan artistiaid poblogaidd, gan gynnwys y band Gwilym, bwyd a diod blasus, stondinau lliwgar a llawer mwy.

Dewch â’r teulu cyfan i fwynhau’r ŵyl unigryw Gymreig yma; y fwyaf o’r fath yn Ewrop.