Rydym ni'n ymrwymo i arddangos amrywiaeth eang o theatr, yn cynnwys rhai o'r sioeau ddawns gorau y gallwch chi weld ar lwyfan. Darllenwch ein hargymellion ar gyfer y sioeau dawns anhygoel sydd ar y gweill isod.
Sweat Baby Sweat
9 Tachwedd 2019
Mae'r “seriously intimate duet” (The Evening Standard) yma'n berfformiad am gariad angerddol, anodd. Fel rhan o Ŵyl Ddawns Caerdydd, mae Sweat Baby Sweat yn ddawns rhwng dau sy’n cydio’n dynn yn ei gilydd, yr un o’r ddau’n awyddus i ollwng ei afael, a’r un o’r ddau’n gallu gwneud hynny chwaith.
-Ish
14 November 2019
Hefyd fel rhan o Ŵyl Ddawns Caerdydd, mae -Ish yn archwilio anhwylder cydgysylltu anweledig dysbracsia.
Wedi'i berfformio gan artist dysbracsig a dyslecsig trwy ddawns bywiog, cerddoriaeth jazz a gwrthrychau afreolus, mae -Ish yn ddawns o ymdrech go iawn sy’n blodeuo ac yn ffynnu ar gamweithrediad.
Acosta Danza
6 – 7 Mawrth 2020
Ymunwch â'r seren ballet fyd-enwog Carlos Acosta a'i gwmni sydd â chlod beirniadol wrth iddyn nhw berfformio rhaglen o weithiau newydd a phresennol. Gyda sesiwn holi ac ateb gydag aelodau o'r cast ar 6 Mawrth, cewch chi ddim mewnwelediad gwell mewn i'r byd ddawns.
Brendan Cole: Show Man
15 Mawrth 2020
Paratowch am noson euraidd, mae Brendan yn ôl! P’un ai ydych chi’n caru’r Charleston neu Salsa secsi, gallwch ddisgwyl bob math o ddawnsio ‘ballroom’ a Lladin gan Brendan Cole a'i ddetholiad o ddawnswyr penigamp.
Ymunwch â ni am wefr o berfformiad llawn cerddoriaeth a dawns anhygoel a phrofwch y 'showman' wych yma ar ei orau.
AJ Live
18 Mawrth 2020
Yn cyfuno'i hoff fomentau o'r sioe BBC One boblogaidd, Strictly Come Dancing, bydd AJ Pritchard yn dod â egnïol i ddiddanu’r teulu cyfan, gan AJ a’i ddetholiad o’r gorau o dalent dawns yn y DU.
Yn cynnwys ymddangosiad arbennig gan brawd AJ a'r seren Love Island 2019, Curtis Pritchard, ymunwch ag AJ a Curtis am sioe unigryw, wefreiddiol.
The Red Shoes
31 Mawrth – 4 Ebrill 2020
Wedi iddo ennill dau wobr Oliview a gwefreiddio cynulleidfaoedd a beirniaid ledled Prydain ac America, mae addasiad anhygoel Sir Matthew Bourne o'r ffilm hynod boblogaidd yn dychwelyd.
Wedi’i gosod i gerddoriaeth hynod ramantus oes aur Hollywood, chwedl o obsesiwn, meddiant a breuddwyd un ferch i fod yn ddawnswraig orau’r byd yw The Red Shoes.
llun gan: Transitions Dance Company