Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Tumi Williams stood outside WMC

Ni'n tanio'r dychymyg: Tumi Williams

Hanner ffordd drwy ei rôl dwy flynedd fel Cydymaith Creadigol, dyma ni’n trafod gyda’r cerddor, cogydd, a hyfforddwr celfyddydau ieuenctid, Tumi Williams...

Ar wahân i’w waith unigol fel yr MC poblogaidd Skunkadelic, mae Tumi hefyd yn flaenwr y cymundod ‘monster funk’ Afro Cluster a fu’n cefnogi Ibibio Sound Machine yn ein Gŵyl y Llais yn 2018. 

A phan nad yw'n brysur fel tad neu'n rhedeg busnes bwyd Nigeriaidd ffyniannus, Jollof House Party mae'n brysur yn mentora ac yn rhannu ei wybodaeth a'i sgiliau gyda'r genhedlaeth nesaf. 

Edrychwch ar stori Tumi hyd yn hyn....

Cafodd Tumi flwyddyn gyntaf brysur, yn cynhyrchu Up and Cymru - dathliad o gerddoriaeth Ddu yn ein Stiwdio Weston ar gyfer Gŵyl y Llais yn 2021. 

Roedd y digwyddiad yn cynnwys 14 o artistiaid gwahanol o fyd hip hop, enaid, grime a mwy, gydag artistiaid newydd a sefydledig. 

Roedd Tumi hefyd wrth law i fentora actiau newydd a chyflwyno pobl o'r gymuned leol i reoli llwyfan a chynnal digwyddiadau cerddoriaeth.

"Yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus ym Mhenygraig gyda Plant y Cymoedd, helpodd Tumi i ddatblygu gweithdy hip hop Llais Creadigol newydd i ni. "

Tumi Williams

Yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus ym Mhenygraig gyda Plant y Cymoedd, helpodd Tumi i ddatblygu gweithdy hip hop Llais Creadigol newydd i ni. 

Dros chwe wythnos dysgodd pobl ifanc yn y Cymoedd am ysgrifennu caneuon, geiriau a chynhyrchu, a chawsant y cyfle i recordio eu trac cerddoriaeth eu hunain. 

Darganfyddwch fwy am Tumi yn ein blog Cymdeithion Creadigol.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston, The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.