Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Gabin Congolo in a blue seatshirt smiling

Artist o dan y chwyddwydr: Gabin Kongolo

Bob mis rydyn ni'n taflu goleuni ar egin artistiaid ifanc o Gymru. Dechreuwn gyda Gabin Kongolo, sy'n chwarae rhan 'Yemz' yn y ffilm Grime, 'Against All Odds', a gyfarwyddwyd gan Femi Oyeniran (Kidulthood) a Nicky Walker (The Intent).

Aeth Prendy o dîm Radio Platfform i sgwrsio â Gabin am y ffilm, am fod yn greadigol yng Nghaerdydd, a'r heriau y mae e wedi’u hwynebu ar hyd y ffordd.

Mae'r ffilm yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener 20 Tachwedd. Sut fyddet ti'n disgrifio'r ffilm?

Mae’r ffilm yn talu teyrnged i ddyddiau cynnar sin Grime y DU. Mae’n dangos beth oedd yr MCs yn eu hwynebu wrth geisio datblygu gyrfa yn y sin. Dwi’n meddwl ei bod hi’n ffilm brydferth sy’n adrodd stori y bydd nifer o bobl yn gallu uniaethu â hi. Grime oedd y gerddoriaeth gyntaf oedd wirioneddol yn perthyn i ni.

O ble ddaeth y cyfle i weithio ar y ffilm?

Roeddwn i yn Coventry ar y pryd yn gweithio ar ffilm fer pan welais neges ar Instagram yn dweud "Mae The Intent + Intent 2 yn creu ffilm newydd sbon ac yn chwilio am bobl 16-19 oed".

Roeddwn i’n 21 ar y pryd, a dw i’n cofio meddwl y byddai angen i mi ddweud celwydd am fy oedran, achos doeddwn i ddim am golli cyfle! Ond sylweddolais yn reit fuan mai chwilio am bobl sy’n edrych tua 16-19 oed ac yn gallu chwarae’r oedran yna oedd y cwmni, felly roedd cyfle i mi.

Roedd angen i mi gydio yn y cyfle a mynd amdani. Mae The Intent a The Intent 2 wedi bod mor llwyddiannus – maent ar Netflix, wedi cael premieres byd, carped coch, y cyfan.

Felly, ymgeisiais, a gofynnon nhw i mi anfon tâp iddyn nhw. Deuddydd cyn i mi anfon y tâp, doeddwn i ddim yn teimlo’n bositif iawn, ond yna ges i e-bost yn gofyn i mi ddod am glyweliad wyneb yn wyneb yn Llundain. Felly es i’n syth o Coventry i Lundain, a dyna ddechrau ar siwrne fythgofiadwy.

Ges di glyweliad ar gyfer rhan benodol yn y ffilm?

Ges i gymeriad i’w chwarae, sef Yemz, a dyna fy rhan yn y ffilm. Fel arfer gyda galwad castio mae’r cwmni’n trafod y cymeriadau ac rydych chi’n gwneud clyweliad ar gyfer rhan benodol yr ydych wedi'i dewis.

Ond y tro yma, dwedodd y cwmni wrtha i am geisio ar gyfer rhan benodol. Dw i’n cofio darllen y sgript a meddwl bod y cymeriad yma mor debyg i mi mewn cymaint o ffyrdd. Dw i’n cofio Femi a Nicky, y cyfarwyddwyr, yn dweud yn y clyweliad “Rwyt ti’n actor, meddylia am bopeth yr wyt ti wedi’i wneud. Dweda wrthym ni pwy wyt ti." Ceisiais fod yn ddiymhongar a pheidio gor-ddweud.

Roeddwn i ar y trên ar fy ffordd yn ôl i’r Brifysgol tri diwrnod yn ddiweddarach pan ges i alwad yn dweud fy mod i wedi cael y rhan. Ymhen pythefnos roedden ni wedi cychwyn ffilmio, ac rydw i wedi treulio’r flwyddyn gyfan yn gweithio ar y ffilm.

Pwy yw dy gymeriad, a beth yw ei rôl yn y ffilm?

Yemz yw enw’r cymeriad, ac fe yw rheolwr Active, sef prif gymeriad y ffilm. Mae Active yn MC ifanc sy’n ceisio creu enw iddo’i hun, ac yn cweryla gyda phawb o Risky Roadz a Lord of the Mics. Mae Yemz yn gymeriad pwyllog, tra bo pawb o’i amgylch yn emosiynol ac yn ddramatig. Mae e’n ofalus, ond mae’n cael ei fwlio gan y lleill – does neb yn gwrando arno. Er bod pawb yn gwybod ei fod yn llygad ei le, dydyn nhw ddim yn gwrando arno ac maent yn mynd i lanast yn y diwedd.

Fy hoff beth amdano yw waeth beth mae e’n ei brofi – y llwyddiannau a’r heriau – mae e’n cefnogi Active neu Leon (sy’n cael ei chwarae gan Ty Logan) bob amser. Yn y bôn, mae Yemz yn sortio popeth i bawb.

Ai hwn yw dy rôl fwyaf hyd yn hyn, ac ai hwn yw’r rôl rwyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?

Dw i’n meddwl o safbwynt diwylliannol, dyma’r rhan fwyaf i mi ei chwarae hyd yn hyn. Mae bob cyfle yn agor drysau, ond mae’r cyfle yma’n sicr o agor mwy o ddrysau. O’r cychwyn cyntaf roeddwn i’n gwybod y byddai’r ffilm yn llwyddiant, ac y byddai cenhedlaeth gyfan yn gallu uniaethu â hi.

Dw i’n cofio meddwl pan oedden ni’n ffilmio, mor enfawr fyddai’r ffilm. Mae unigolion sy’n rhan ohoni – pobl fel Jammer, J2K, D Double E, Ghetts ayyb yn boblogaidd iawn ac yn dod â chynulleidfaoedd eu hunain at y ffilm, felly wrth feddwl am y cynulleidfaoedd yma’i gyd yn dod at ei gilydd…waw! Ar lefel bersonol, mae’r ffilm wedi bod mor bwysig i mi, achos mae’n ymwneud â rhywbeth oedd yn rhan o fy llencyndod. Mae’n adlewyrchu fy mywyd i gymaint ag y mae’n adlewyrchu bywydau pobl eraill.

Mae artistiaid Grime poblogaidd iawn yn ymddangos yn y ffilm. Wyt ti’n meddwl bydd y ffilm yma’n helpu cyflwyno’r artistiaid a’r gerddoriaeth i gynulleidfa newydd?

Yn sicr – bydd y ffilm yn cyflwyno neu’n ail-gyflwyno Grime i gynulleidfaoedd. Dw i’n casáu pan mae pobl yn dweud "Grime is Dead", achos mae Grime yma o hyd. Mae’n esblygu. Mae’r ffilm yn talu teyrnged i bobl fel Ghetts a D Double E. Hebddyn nhw ac eraill ni fyddai’r ffilm yma wedi digwydd. Mae’r ffilm yn mynd i fod ar gael ar-lein drwy Link Up TV, felly fe fydd dipyn o bobl yn ei gwylio ac yn darganfod Grime ar hap. Gobeithio y bydd hi’n cyrraedd cynulleidfa eang.

Gabin fel 'Yemz' yn y ffilm

Mae’r ffilm yn mynd i gael ei darlledu ar channel u ar deledu lloeren. Sut deimlad yw hynny?

Doeddwn i ddim yn gwybod nes gweld y newyddion ar-lein. Mae meddwl amdani’n cael ei dangos ar y teledu yn ychwanegu at y cyffro. Roeddwn i a fy mrodyr yn arfer gwylio Channel U ar ôl ysgol, ac mi roedd y sianel yn rhan fawr o’m mywyd pan oeddwn i’n byw yn Llundain hefyd. Roedd Channel U yn teimlo’n bwysig – dwi’n cofio gweld fideos N-Dubz, Skepta a JME arni. Felly mae’r ffaith bod y ffilm yma ar Channel U yn teimlo’n bwysig.

Pan oeddet ti’n tyfu fyny yng Nghaerdydd, beth oedd yn dy ysbrydoli di i fod yn greadigol?

Cymaint o bethau. Dwi’n meddwl mai ar hap nes i ddarganfod creadigrwydd. Dyma un o fy hoff straeon … Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n am fod yn rhan o’r dosbarth drama. Roedd y dosbarth yn mynd ar drip ysgol – roedd y syniad o golli diwrnod ysgol er mwyn mynd i fowlio deg, cael pryd o fwyd a gwneud perfformiad yn apelgar iawn. Ond roedd rhaid i mi aros tan flwyddyn 9 i gymryd rhan.

Unwaith cychwynnais i yn y dosbarth drama, sylweddolais fy mod i wir yn ei fwynhau, a nes i gymryd y peth o ddifri. Ymunais â’r clwb drama ar ôl ysgol, a’r sioe gerdd – a sylweddolais faint roeddwn i’n caru cerddoriaeth. Roeddwn i wrth fy modd efo cerddoriaeth erioed, ond drwy’r profiadau yma sylweddolais efallai y gallwn i wneud rhywbeth go iawn yn y maes.

O hynny ymlaen roeddwn i’n meddwl drwy’r amser am ffyrdd i ddatblygu. Es i i’r coleg a chofrestru gydag asiant a ches i ambell gyfle. Dechreuais gael rhannau bach fel ‘extra’ a ches i’r profiad roeddwn i'w angen o fod ar set. Dw i’n cofio gweithio fel extra ar sioe BBC Three o’r enw 'Class' a meddwl ar y pryd mai dyma oeddwn i wir eisiau ei wneud – achos roeddwn i’n treulio gymaint o amser yn eistedd ac yn aros!

Roeddwn i’n blentyn swil ond sylweddolais fod rhaid cychwyn yn rhywle – a chael profiadau amrywiol cyn cael y rhannu mwy. Mae’n rhan o siwrne. Es i i’r brifysgol a dechreuodd fy nghreadigrwydd flaguro – achos ges i’r cyfle i wneud popeth roeddwn i am ei wneud. Sylweddolais fod modd gwneud y cyfan – does dim rhaid i mi fod yn actor yn unig, galla i fod yn actor ac yn gerddor, yn fardd, yn wneuthurwr ffilmiau ac yn ffotograffydd.

Ar wahân i ddosbarthiadau drama, oedd yna unrhyw sefydliadau neu glybiau eraill yng Nghaerdydd oedd yn fuddiol pan oeddet ti’n tyfu fyny?

Ar y pryd, na, ddim i mi wybod amdanyn nhw. Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd, dim ond y clwb drama ar ôl ysgol oeddwn i’n gwybod amdano. Dw i ddim yn dweud nad oedd cyfleoedd, ond doeddwn i ddim yn chwilio amdanyn nhw bryd hynny. Pan oeddwn i’n 14-15 oed roedd drama yn rhywbeth roeddwn i’n ei fwynhau, ond roeddwn i’n dal yn ffyddiog mai peldroediwr faswn i! Dim ond yn y coleg nes i ddod o hyd i’m ffordd.

Erbyn hyn dw i’n gwybod bod Jukebox Collective yn gwneud pethau gwych, ac mae yna weithdy actio ym Mae Caerdydd o’r enw The Workshop sy’n ardderchog.

Mae cwmni Shelley Norton hefyd yn cynnal y Talent Shack ar Heol Penarth. Dyna dri chyfle – a gobeithiaf y bod yna ragor. Mae yna gymaint o blant gyda thalent wych, petaent am ddilyn gyrfa ym myd actio. Efallai bod hwn yn rhywbeth i mi edrych arno yn y dyfodol.

Wrth edrych yn ôl, oes yna unrhyw gefnogaeth a fyddai wedi bod yn fuddiol i ti neu i bobl ifanc creadigol eraill yn y maes?

Yn bendant. Dyma’r broblem efo bod yn berffeithydd neu’n un sy’n meddwl yn y ffordd yna. Pan oeddwn i’n 18 roeddwn i’n meddwl yn gyson y dylwn i fod wedi cychwyn dwy flynedd yn gynt – fel y baswn i ar y blaen o ddwy flynedd. Hoffwn petawn i wedi cael mentor i’m helpu i’r cyfeiriad cywir.

Hoffwn i chwarae’r rôl yna i bobl ifanc yn y dyfodol. Dw i’n meddwl ei fod yn bwysig iawn, yn enwedig mewn lle fel Caerdydd.

Mr John oedd y person a roddodd yr hwb mwyaf i mi. O flwyddyn 10 i 11 bu’n fy annog i fynd ar drywydd cerddoriaeth, a sylweddolais fod gen i’r gallu. Fe’m gwthiodd i ymuno â sioeau cerdd yr ysgol, a dwedodd wrtha i fy mod i’n dda.

Dw i’n cofio fe’n dweud rhywbeth sydd wedi aros gyda fi. Dwedodd e ac athro arall, Mr Smith, "Dim ond 10% o bobl sy’n cael yr yrfa y maen nhw wir eisiau". Dw i’n cofio meddwl fy mod i am fod yn y garfan yna o 10%. Fe gwrddon ni'r llynedd am ginio a dwedais wrtho am bopeth yr oeddwn i wedi’i wneud hyd yn hyn. Roedd e’n meddwl fy mod i wedi dod yn bell – ac roedd hi’n braf clywed hynny.

Rwyt ti wedi treulio cryn dipyn o amser yn Llundain dros y blynyddoedd, oes rheswm dros hynny?

Sylweddolais nad oedd rhyw lawer yn digwydd i mi yng Nghymru. Fel dyn du, doedd dim yn digwydd i mi o gwbl. Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol ac yn gwthio fy hun yn Llundain, teimlais fod mwy o gynrychiolaeth yn dechrau ymddangos ar y sgrin. Roedd hynny’n wych, a bellach rydw i’n teimlo bod mwy o waith ar fy nghyfer i.

Dw i’n meddwl bod mwy o gyfleoedd yn Llundain nag yng Nghymru oherwydd mae’r naratif amrywiol sy’n cael eu rhannu yn Llundain yn fwy perthnasol i mi. Hefyd mae fwy o gynrychiolaeth ar y sgrin yn Llundain, gan fod pobl yn ymwybodol bod Llundain yn ddinas amlddiwylliannol ac yn cofleidio hynny.

Dim ond nawr mae Caerdydd yn cofleidio hyn dw i’n meddwl. Mae pobl bellach wedi sylweddoli beth yw Tiger Bay ac yn perchnogi hynny. Dw i’n meddwl y daw cyfnod pan fydd pobl wirioneddol yn rhannu stori Tiger Bay a phopeth am The Cardiff Five. Mi fydd hi’n hollol wych pan ddaw’r storïau yma allan.

Dw i’n meddwl bod angen i ni adrodd y straeon yma a’u gwthio nhw i’r blaen. Mae angen i bobl wybod bod gennym ni hanes, ac unwaith byddwn yn dechrau gwneud hynny yng Nghymru, byddwn yn agor y drws a derbyn mai dinas aml-ddiwylliannol yw Caerdydd a’r hanes hynny sydd y tu cefn iddi.

Wrth weld cymaint mae Llundain yn derbyn ei hunaniaeth aml ddiwylliannol, wyt ti’n meddwl bod y problemau yma wedi dal Caerdydd yn ôl yn y gorffennol?

Baswn i ddim yn dweud hynny’n union. Yn hytrach mi faswn i’n dweud bod fy nghyfleoedd i’n gyfyng ar y pryd. Ar adeg pan oeddwn i eisiau actio o ddifri, dim ond S4C oedd ar gael i mi, a dydw i ddim yn medru’r Gymraeg.

Nid ticio bocs ydw i’n ei wneud. Os ydw i’n cael gwaith, mae hynny oherwydd fy mod i’n dda yn fy ngwaith, nid oherwydd fy mod i’n ateb yr angen. Ond, dw i yn meddwl bod yr opsiynau i bobl fel fi yn reit gyfyng.

Dw i’n meddwl bod pobl dal yn gaeedig yn eu ffordd o feddwl. Wrth feddwl am gymeriad neu rôl maen nhw’n meddwl ‘person gwyn ydi o’ – dydyn nhw ddim yn meddwl ‘gallai’r rhan yma gael ei chwarae gan unrhyw un’. Mae hyn yn newid yn araf bach, sy’n galonogol, ond mae’n feddylfryd sydd angen ei waredu.

Wyt ti’n meddwl bod hyn yn newid yng Nghaerdydd?

Ydw. Dw i’n meddwl bod dipyn o bobl dw i’n eu hadnabod sy’n dod i’r brig yma yng Nghaerdydd – pobl sy’n hŷn na fi, yn hil gymysg, nid du, yn ceisio rhannu’r straeon hyn. Mae pobl hŷn yn ceisio agor y drysau yma. Mae’r rhain yn bobl uchel eu parch, felly nid mater o sut fydd hyn yn digwydd, ond pryd. Ni allwn gael ein hanwybyddu bellach.

Dw i’n teimlo fel hyn am Gaerdydd, y sin yn gyffredinol a’r byd. Rydyn ni’n creu sŵn, ac mae gymaint o dalent yma yng Nghymru – o gerddoriaeth, actio, dawnsio, ac ati. Ni allwn gael ein hanwybyddu bellach.

Bydd ffilm Against All Odds yn cael ei dangos am y tro cyntaf ddydd Gwener 20 Tachwedd 2020 am 7pm ar Channel U (sianel Sky 373/ sianel Virgin 345) ac ar gael i’w gwylio ar-lein drwy Link Up TV. Mae Link Up TV yn gwmni talent ar-lein sy'n cael ei hysbrydoli gan greadigrwydd a phobl ifanc, mae hi'n dangos doniau newydd. 

Gallwch wrando ar gyfweliad llawn Gabin Kongolo gyda Prendy ar Radio Platfform. Mae’r cyfweliad hefyd yn cynnwys cerddoriaeth o drac sain y ffilm a rhai o hoff artistiaid Cymreig Gabin.