Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Sioe wyddoniaeth/comedi/cerddoriaeth un-fenyw yw Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) a gyd-gynhyrchwyd gyda’r Ganolfan. Fe wnaeth ymddangos gyntaf yn ystod Gŵyl y Llais 2018.

Erbyn hyn mae Carys wedi creu addasiad Cymraeg o'r ddrama - Cer i Grafu...sori...GARU!

Gan dynnu ar brofiadau personol, mae Carys yn cyfuno caneuon clyfar a hynod ddifyr (The Love Monger, Space and Time, Tit Montage) a straeon o’r galon ar daith i ddatgelu perfeddion cariad.

Pam mae cariad peri inni wneud pethau gwallgof, a pham mae cael cwtsh mor bwysig?

"Each anecdote invites an eclectic musical performance, ranging from the heavy metal enjoyed in her first relationship, to ballads and pop."

Wales Arts Review

Yn dilyn ei llwyddiant yn y Ganolfan, a hithau mor fywiog a doniol, fe aeth Carys, sydd wedi ei henwebi ar gyfer BAFTA Cymru, â’i swyn Cymreig (ac Oxytocin) i Ŵyl Frinj Caeredin 2018 a 2019 a Gŵyl Frinj Adelaide 2019. Yn Adelaide, enillodd Wobr Cabaret Gorau.

Yn ystod yr Hydref bydd Carys yn dychwelyd i Ffresh i berfformio'r sioe yn Saesneg, ac yn cyflwyno addasiad Cymraeg newydd - Cer i Grafu...sori...GARU! Mae'r perfformiadau yn rhan o dymor Perfformiadau i'r Chwilfrydig 2019.  Bydd Ffresh yn ddiweddglo i daith o 10 lleoliad ledled Cymru.

Bydd Lovecraft / Cer i Grafu...sori...Garu yn teithio i