Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cynhyrchwyd Only The Brave gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar y cyd a Soho Theatre, Daniel Sparrow Productions a Birdsong Productions gyda chast o sêr Cymreig gan gynnwys Caroline Sheen a David Thaxton.

Mae Only The Brave yn adrodd stori am ddewrder anhygoel a phenderfyniad rheiny oedd yn brwydo yn y rhyfel gan ddwyn i gof y boen emosiynol a chorfforol achoswyd yr Ail Ryfel Byd.

Mae’n adrodd stori grŵp o filwyr dewr ar genhadaeth beryglus y bydd yn sicrhau llwyddiant glaniadau D-Day.

Mae’r sioe gerdd ddirdynnol a gwreiddiol yma’n plethu hanes y milwyr gyda straeon eu teulu a’u ffrindiau. Yn seiliedig ar stori wir, mae Only The Brave yn cofio cyfeillgarwch a dewrder cenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd.

GWYLIWCH Y SIOE GERDD GYFAN AR-LEIN

Yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2008, cafodd y fersiwn llwyfan llawn ei chyflwyno am y tro cyntaf yn y Theatr Donald Gordon ym mis Mawrth 2016.

Wedi’i hysgrifennu gan Rachel Wagstaff, cerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Gaerdydd, Matthew Brind a chyfarwyddyd gan Steve Marmion, agorwyd sioe gerdd gyntaf Canolfan Mileniwm Cymru i adolygiadau brwd.