Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Wedi’i gyd-gynhyrchu â’r gwneuthurwr theatr arloesol, Kaite O’Reilly, cyflwynodd The Beauty Parade stori ryfeddol ysbiwyr benywaidd, arwrol yr Ail Ryfel Byd.

Y cyfnod yw’r 1940au, yng nghanol y rhyfel. Mae’r dynion yn ymladd ar flaen y gad a dyw menywod ddim yn cymryd rhan yn y brwydro. Yn hytrach, nhw sy’n cadw’r tân ynghynn ar yr aelwyd, yn cadw’r ffatrïoedd i fynd, ac yn bwydo’r plant yn y cartref. Neu dyna maen nhw’n ei ddweud wrthon ni, o leiaf…

Yn y cynhyrchiad yma, cydweithiodd Kaite O’Reilly gyda’r cyfansoddwr Rebecca Applin a’r perfformiwr/arbenigwr ar iaith weledol Sophie Stone i ddatgelu un o ymgyrchoedd unigryw yr Ail Ryfel Byd; ynddi, roedd menywod cyffredin yn cael eu tynnu o’u bywydau dinod a’u parasiwtio y tu ôl i linellau’r gelyn. Ac enw’r prosiect? The Beauty Parade.

Roedd The Beauty Parade yn gydweithrediad unigryw rhwng artistiaid Byddar a rhai sy’n clywed a gyfunodd gerddoriaeth fyw, caneuon atgofus ac iaith weledol. Roedd e’n gynhyrchiad rhwng diwylliannau Byddar a’r rhai sy’n clywed a rannodd ddehongliad amlsynhwyraidd o stori wir ryfeddol.

“A phenomenal tour-de-force...a piece that will, no doubt, be enduringly popular with a huge cross-section of attendees because of its wide-ranging reach and high-quality writing and acting.”

Disability Arts Online

Gwelodd dros 1,400 o bobl y sioe dros naw perfformiad yn ein Stiwdio Weston rhwng 5 a 14 March 2020.

Derbyniodd The Beauty Parade sylw mawr yn y wasg. Bu dros 30 o erthyglau am y cynhyrchiad ar-lein ac yn y cyfryngau, gan gynnwys the Guardian, Western Mail, Radio Cardiff a Buzz magazine.

“The Beauty Parade has been an extraordinary project. I am extremely proud of the production which draws on amazing female stories previously hidden from history. It is, however, the pioneering approach taken by the creative team that has been most inspiring and interesting. This has been a real collaboration between Deaf and hearing artists, an intercultural experience like none I have ever had before.”

Emma Evans, Cynhyrchydd 

Darllenwch flog gan yr awdur a chyfarwyddwr, Kaite O’Reilly a’n Cyfarwyddwr Artistig, Graeme Farrow sy’n trafod creadigaeth The Beauty Parade.