Wedi’i chynhyrchu ar y cyd â Wiltshire Creative, roedd ein cynhyrchiad The Mirror Crack'd yn seiliedig ar y clasur o nofel gan Agatha Christie.
Cynhaliwyd première Ewropeaidd The Mirror Crack’d yn Salisbury Playhouse ar 15 Chwefror 2019 ac fe deithiodd i Ddulyn, Caergrawnt a Chaerdydd.
Hwn oedd y tro cyntaf i’r nofel boblogaidd gan Agatha Christie gael ei haddasu i’r llwyfan yn Saesneg, a bu ŵyr Christie, Mathew Pritchard, yn ein hannog i fod yn ddewr ac yn fentrus wrth addasu’r ddrama gyfoethog, seicolegol yma.
Roedd y ddrama’n trafod sut rydyn ni’n camliwio ein hatgofion a gwirioneddau, i guddio’r tywyllwch oddi mewn. Mewn byd sy’n newid o hyd, mae pawb yn gwarchod cyfrinach neu ddwy, hyd yn oed Miss Marple.
CRYNODEB
Ar ôl ffair haf a pharti coctels sy’n gorffen gyda llofruddiaeth, mae Prif Arolygydd Craddock yn ymweld â Miss Marple – ei ffrind a’i gystadleuwraig – sy’n gaeth i’r tŷ ar ôl damwain.
Wedi’i osod ym 1962, mae’r dirgelwch yn canolbwyntio ar hen seren ffilm o Hollywood sydd wrthi’n serennu yn ei ffilm ddiweddaraf.
Pam y diflannodd hi o’r byd ffilmiau; pam ydy hi wedi symud i hen blas mewn pentref tawel yng nghefn gwlad Lloegr a pwy fyddai eisiau ei lladd hi?
Mae’r stori dditectif draddodiadol yma wedi’i hail-ddychmygu i ganolbwyntio ar ‘pam’ yn ogystal â ‘pwy’.
Gan ail-chwarae ac ail-holi digwyddiadau o nifer o safbwyntiau, mae’r llwyfannu annisgwyl yn ymchwilio sut rydyn ni’n ceisio llunio ein hatgofion ond yn y pendraw yn cael ein llunio ganddyn nhw.
Y CAST
Chwaraewyd y cymeriad eiconig, Miss Marple gan Susie Blake, sy’n adnabyddus am ei rhannau teledu yn Mrs Brown’s Boys, Coronation Street a Victoria Wood As Seen on TV yn ogystal â nifer o gredydau llwyfan.
"I’ve been waiting for an opportunity to play a role like this my whole career. I loved watching the great Margaret Rutherford as Miss Marple and always wanted to be her when I was growing up."
Susie Blake
Simon Shepherd oedd yn chwarae rhan y Prif Arolygydd, Dermot Craddock. Yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Dr. Will Preston yng nghyfres boblogaidd ITV Peak Practice, mae Simon hefyd wedi ymddangos mewn addasiad teledu Miss Marple.
Roedd y cast hefyd yn cynnwys Colin R Campbell, Joe Dixon, Suzanna Hamilton, Julia Hills, Katherine Manners, Katie Matsell, Davina Moon, Huw Parmenter a Gillian Saker.
Y TÎM CREADIGOL
Addaswyd y stori ddirgel eiconig i’r llwyfan gan yr awdur, Rachel Wagstaff. Dyma’r ail waith i ni weithio gyda Rachel yn y Ganolfan ar ôl ein cynhyrchiad cerddorol cyntaf erioed, Only the Brave.
Fe’i cyfarwyddwyd gan Melly Still, sy’n adnabyddus am ei gwaith gyda chwmnïau byd-enwog fel y National Theatre, Glyndebourne Festival Opera a’r Royal Shakespeare Company a gyda ni ar Tiger Bay the Musical.
Roedd y tîm creadigol hefyd yn cynnwys y dylunydd set Richard Kent, a weithiodd ar ein cynhyrchiad o Man to Man, a’r dylunydd gwisgoedd sydd wedi ennill Gwobr Emmy, Dinah Collin. Cynhyrchwyd y ddrama gan ein Cynhyrchydd Gweithredol, Pádraig Cusack.